beth yw hynt?
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol. Bydd y wefan yn nodi popeth fydd angen i chi ei wybod am Hynt; ar gyfer pwy mae Hynt, beth mae'n ei ddarparu, a sut i ddod yn aelod.
Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelf, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt.
symposiwm 2018
Dianc o'r Bocs 4: Yw'r celfyddydau yng Nghymru yn amrywiol? Dydd Gwener 16 Chwefror 2018, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Bydd y symposiwm mynediad hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Cwmni Theatr Taking Flight, Hynt a Theatr Clwyd. Bydd y digwyddiad yn croesawu theatrau, canolfannau celfyddydol, perfformwyr, cynhyrchwyr, cwmnïau a gweithwyr proffesiynol creadigol eraill sy'n gweithio ar draws y celfyddydau perfformio er mwyn trafod sut y gall y celfyddydau yng Nghymru ddod yn fwy hygyrch.
Bydd nifer o brif siaradwyr yn cymryd rhan yn y symposiwm. Bydd y siaradwyr yn gwneud cyflwyniad ac yn cynnig nifer o bynciau trafod. Yn dilyn pob siaradwr bydd cyfle i drafod cwestiynau pellach mewn grwpiau llai. Bydd sesiwn hefyd ar ddeunyddiau marchnata hygyrch megis blychau model cyffyrddol a deunydd sain / BSL.
Archebwch nawr: megan@creucymru.com
hanes hynt bod yn aelod