cyngor a phrofiad

Os ydych yn anabl, neu os oes gennych brofiad a dealltwriaeth o fynediad i bobl anabl i'r celfyddydau, gallwch gynnig mewnwelediad i sut y gall Hynt ddatblygu neu wella. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwch gymryd rhan. 

cyfraniadau  

Os hoffech gyfrannu at Hynt trwy rodd unigol neu etifeddiaeth, neu os ydych yn teimlo y gallwch helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni heddiw. Bydd pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol at weinyddu a datblygu'r cynllun a'i werth i gymunedau anabl ledled Cymru. Byddwn yn eu derbyn gyda diolch.

Clicwch yma.

nawdd busnes

Os ydych yn fusnes a fyddai'n hoffi cynnig cefnogaeth drwy nawdd, byddem wrth ein boddau'n siarad â chi. Cliciwch yma i lawrlwytho ein pecyn nawdd, sy'n nodi manylion y manteision y gall hynt eu cynnig i'ch busnes, neu gysylltwch â rheolwr prosiect hynt Megan Merrett ar megan@creucymru.com.