Yng ngwanwyn 2014, ffurfiwyd tîm prosiect Hynt gan Greu Cymru, gan ddechrau gweithio ar unwaith gyda Diverse Cymru i ddatblygu'r model ar gyfer y cynllun mynediad cenedlaethol. I ddechrau'r broses, cynhaliwyd saith digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru. Nod y digwyddiadau hyn oedd amlinellu ein syniadau am sut y gallai Hynt weithio a thrafod cyfleoedd a heriau'r prosiect. Hefyd, anfonwyd gwybodaeth i unigolion a sefydliadau er mwyn i unrhyw un nad oedd yn gallu mynychu ond oedd yn awyddus i gymryd rhan yn y drafodaeth gael dweud eu dweud.

Rhoddodd y sesiynau ymgysylltu lawer iawn o wybodaeth, gan ein helpu i ddeall yn well y profiadau a'r heriau amrywiol y byddwn yn gweithio â nhw. Rydym hefyd wedi cwrdd â nifer fawr o sefydliadau ac unigolion sydd wedi rhannu eu harbenigedd, eu gwybodaeth a’u hadnoddau yn hael gyda ni i helpu i ddatblygu a chefnogi Hynt. 

Ym mis Medi 2014, fe gyhoeddon ni adroddiad. Roedd yn dwyn ynghyd yr holl sylwadau ac adborth a gawsom yn y sesiynau ymgysylltu ac yn dangos sut rydym wedi addasu a newid y cynllun i adlewyrchu rhai o'r heriau a'r cyfleoedd. Yna cawsom gyfnod pellach o ymgynghori er mwyn ein helpu i greu fersiwn terfynol Hynt.

Mae'n bwysig i ni fod Hynt yn gynllun dan arweiniad cymheiriaid. Rydym bob amser yn ymateb yn gadarnhaol i adborth ac yn ystyried barn pawb rydym yn cysylltu â nhw. Yn ystod ein hymgysylltu a'n hymgynghori, siaradon ni gyda dros 80 o bobl, gan gynnwys pobl anabl â namau amrywiol, sefydliadau cymorth, gofalwyr, theatrau a chanolfannau celf. Mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, ac mae pob un yn cyfrannu at y gwaith o greu Hynt fel y mae heddiw.