dyma yw hynt...

dyma yw hynt...

Cyn hyn, ni fu unrhyw gynnig cyson gan theatrau a chanolfannau celfyddydau  i bobl ag angen cymorth cynorthwyydd neu ofalwr arnynt i fynd i'r theatr.  Gwyddwn y gall hyn wneud pethau'n anodd, neu o leiaf ychwanegu mwy o amser ac ymdrech at rywbeth a ddylai fod yn broses syml.

 mwy o wybodaeth

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau  ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr.

Os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, neu os ydych yn gofalu am rywun fel hyn, yna mae Hynt yn berthnasol i chi.

hynt-card.png

cerdyn Aelodaeth yw hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydau sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

adnodd yw hynt

Mae Hynt yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad ac am y celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad i leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. Trwy e-ddiweddariadau rheolaidd, bydd gwefan Hynt a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Hynt yn rhannu'r wybodaeth berthnasol ddiweddaraf am fynediad i'r celfyddydau a’r theatr. Cliciwch yma i ymuno â'n rhestr bostio.

 Close
pwy ydym ni

pwy ydym ni

Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru

Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru yn dymuno creu un cynllun mynediad cenedlaethol i gwsmeriaid anabl a'u gofalwyr. 

 mwy o wybodaeth

Roedden nhw am i chi wybod beth i'w ddisgwyl os byddwch yn prynu tocyn i weld sioe mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau yng Nghymru, ac i hynny fod yn brofiad hawdd i chi. Maent hefyd yn awyddus i annog cynulleidfaoedd newydd i fwynhau'r celfyddydau ac i wella profiadau i bobl anabl.

Felly, ym mis Mawrth 2014 penododd Cyngor Celfyddydau Cymru Creu Cymru yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a lleoliadau yng Nghymru, i weithio mewn partneriaeth â Diverse Cymru i gyflwyno'r cynllun hwn sydd bellach yn cael ei alw'n Hynt.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol gydag anghenion cynulleidfaoedd wrth ei wraidd. Mae'n seiliedig ar ddealltwriaeth o'r heriau y mae rhai cynulleidfaoedd yn eu hwynebu wrth fwynhau popeth y gall y celfyddydau a diwylliant ei gynnig. Rydym am i fannau diwylliannol Cymru fod ar gyfer pawb fel y gall pob un ohonom fwynhau profiadau ystyrlon, cofiadwy ac ysbrydoledig.

Mae HYNT yn gynllun cerdyn sy'n caniatáu i rai â chardiau gael tocyn am ddim i gynorthwywyr personol neu ofalwyr i gael eu defnyddio mewn theatrau a lleoliadau sy'n rhan o’r cynllun yng Nghymru.

Mae Hynt yn wefan lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth am berfformiadau hygyrch mewn lleoliadau ledled Cymru. Gallwch hefyd ddarllen ein canllawiau mynediad i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Mae Hynt yn rhaglen hyfforddi sy'n gweithio gyda phob theatr a chanolfan gelfyddydau sy'n cymryd rhan i wella hygyrchedd a dealltwriaeth. 

 Close
ein gwerthoedd

ein gwerthoedd

Mae Hynt yn fenter a arweinir gan gymheiriaid wedi'i gwreiddio yn Model Cymdeithasol Anabledd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl anabl, gofalwyr a'r trydydd sector er mwyn gwella ansawdd profiadau mewn theatrau a chanolfannau celfyddydau  i unrhyw un â gofyniad mynediad penodol.

 mwy o wybodaeth

Tegwch

Rydym yn trin pobl yn gyfartal heb ffafriaeth nac anffafriaeth. Mae gennym farn gytbwys, ac rydym yn egluro ein penderfyniadau'n glir. A byddwn bob amser yn gwrando ar safbwyntiau a barn eraill ac yn eu hystyried.

Dealltwriaeth

Rydym yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ar draws ein holl waith. Rydym bob amser yn ystyriol o sefyllfaoedd ac amgylchiadau unigol.

Bod yn Agored

Rydym mor agored â phosib ynghylch yr holl benderfyniadau a'r camau a gymerwn. Byddwn yn rhoi rhesymau am ein penderfyniadau a'r unig amser y byddwn yn celu gwybodaeth yw pan fydd diogelu data a phreifatrwydd unigolyn mewn perygl. Byddwn yn datgan unrhyw wrthdaro buddiannau os byddant yn digwydd. 

Eglurder

Byddwn bob amser yn ceisio bod yn eglur. Byddwn yn defnyddio iaith glir ac yn egluro unrhyw beth sy'n aneglur i chi. Byddwn yn ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau ac adborth.

Cysondeb

Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau, wrth gyfathrebu ac wrth  weithredu. Byddwn yn monitro'r hyn rydym yn ei wneud a bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella a datblygu. 

 Close