Canolfan Gelfyddydau Taliesin

Canolfan Gelfyddydau Taliesin
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe

SA2 8PZ

Get in Touch

call: 01792 295238
email: customerservice@taliesinartscentre.co.uk
visit: www.taliesinartscentre.co.uk

Opening Times

Dydd Llun i ddydd Gwener: 10:00 – 18:00 (pan fo perfformiad gyda'r nos, bydd y swyddfa docynnau'n cau 15 munud ar ôl amser dechrau'r digwyddiad)

Dydd Sadwrn 10:00 - 13:00 a 13:30 – 16:00 (pan fo perfformiad gyda'r nos, bydd y swyddfa docynnau'n cau 15 munud ar ôl amser dechrau'r digwyddiad).

Dydd Sul yn agor am 17:00 os oes perfformiad, gan gau 15 munud ar ôl dechrau'r digwyddiad.

View upcoming shows at Canolfan Gelfyddydau Taliesin
Canolfan Gelfyddydau Taliesin

gwybodaeth am y lleoliad

Mae Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn adeilad 30 oed ar Gampws Prifysgol Abertawe. Mae croeso cynnes i ymwelwyr Taliesin. Ein pwyslais yw creu mynediad i bawb. Rydym bob amser yn hapus i dderbyn adborth, ac yn ceisio gwella 'taith yr ymwelydd' yn barhaus.

mynedfeydd: dull gorau

Drysau a gynorthwyir gan bŵer

Mae'r Swyddfa Docynnau ar y llawr gwaelod, ac mae mynediad ar ochr yr adeilad yn fflat. Mynediad ar flaen yr adeilad gyda grisiau.

Mae'r awditoriwm ar y llawr cyntaf gyda grisiau neu lifft mewnol i'w gyrraedd. Grisiau a ramp allanol.

lleoedd

Mae dwy fynedfa i'r awditoriwm. Mae toiledau yn y cyntedd / y caffi y tu allan i'r awditoriwm. Ein seddi â’r rhifau isel sydd agosaf at doiledau.

gwybodaeth gadael mewn argyfwng

Os bydd rhaid gwacáu, bydd y rheolwr blaen tŷ yn dod i'r awditoriwm ac yn gwneud cyhoeddiad. Bydd stiwardiaid a chynorthwywyr y ganolfan gelfyddydau'n rhoi cymorth yn ôl yr angen. Mae cadair wagio ar gael i'w defnyddio yn ôl yr angen. Mae llefydd cadeiriau olwyn yn agos at allanfeydd argyfwng gan ganiatáu mynediad cyflym a hawdd ar ramp. Mae'r holl staff yn cael hyfforddiant cynhwysfawr ar y drefn wagio. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda'r rheolwr blaen tŷ.

cyfleusterau'r lleoliad

  • Mynediad gwastad a lifft i bob ardal gyhoeddus
  • Mae'r awditoriwm ar y llawr cyntaf gyda grisiau neu lifft mewnol i'w gyrraedd.  Grisiau a ramp allanol
  • Toiledau gan gynnwys toiled hygyrch ar y llawr cyntaf.
  • Caffi / bar ar y llawr cyntaf, gyda chownter lefel isel, a ddefnyddir gan ymwelwyr, myfyrwyr a staff,
  • Swyddfa Docynnau gyda chownter lefel isel ac oriel ar y llawr gwaelod
  • Canolfan yr Aifft ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf
  • Banc, siop lyfrau a thwll yn y wal ar y llawr gwaelod

Unrhyw wybodaeth arbennig am fynediad

  • Mynediad gwastad i'r awditoriwm o'r cyntedd
  • Seddau rhenciog yn yr awditoriwm
  • Mynediad gwastad i res G, 2 le i gadeiriau olwyn, 2 sedd mynediad hawdd
  • Dolen glywed yn yr awditoriwm
  • Mae clustffonau is-goch ar gael i wella sain pob dangosiad a pherfformiad. Clustffonau ar gyfer disgrifiadau sain lle maent ar gael (sinema yn unig).
  • Is-deitlau ar berfformiadau dethol (fel a hysbysebir ar y wefan, y llyfryn)
  • Lifft o'r llawr gwaelod i'r llawr cyntaf

rhagor o wybodaeth: Cŵn tywys / cadair olwyn ar gael / dolen sain yn y swyddfa 

  • Mae croeso i gŵn tywys. Dywedwch wrth staff y swyddfa docynnau a'r staff blaen tŷ.
  • Cadair olwyn ar gael i'w defnyddio yn ôl yr angen
  • Diffibriliwr yn y cyntedd
  • Dolen sain yn y swyddfa docynnau a blaen y tŷ yn ogystal â'r awditoriwm
  • Gellir trefnu i unigolion neu grwpiau bach ddod i'r awditoriwm ar gais cyn y perfformiad. Hefyd, ar nosweithiau perfformiadau, bydd y staff blaen tŷ yn barod i arwain ymwelwyr i'r awditoriwm cyn agor, os bydd amser yn caniatáu

gwasanaethau

  • Mae'r staff blaen tŷ yn barod i gynorthwyo gyda diodydd yn yr egwyl yn ôl y gofyn
  • Cynorthwyo cerdded i'r maes parcio os bydd ei angen, os bydd angen cymorth wrth gyrraedd, gofynnwch yn y swyddfa docynnau ymlaen llaw
  • Os bydd cwsmeriaid â phroblemau symudedd yn archebu tocynnau ar-lein, bydd y staff blaen tŷ yn fodlon casglu'r tocynnau o swyddfa docynnau.
  • Llyfryn ar gael mewn Braille ar gais o'r swyddfa docynnau neu'r adran farchnata

cyrraedd yma: cludiant / parcio

  • Mae bysiau 2A a 3A yn gadael am y brifysgol o fae 2 yng Ngorsaf Fysus y Cwadrant yn Abertawe bob ryw 15 munud. Bydd y bysiau hyn yn eich cludo i'r campws, tua 3 munud o gerdded i'r Taliesin.
  • Ar ôl 16:00, caniateir i ymwelwyr barcio ar y campws. Mae arwyddion i faes parcio'r Taliesin. Mae parcio i'r anabl ar gael ym maes parcio'r Taliesin.
  • Dim ond ymwelwyr anabl gaiff barcio ar gampws y brifysgol yn ystod y dydd. Cynghorir i bob ymwelydd arall barcio ym maes parcio'r maes hamdden (y Rec)
  • Mae rac beiciau y tu allan i'r Taliesin
print page