Glan yr Afon

Kingsway
Newport

NP20 1HG

Get in Touch

call: 01633 656757
email: riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk
visit: www.newportlive.co.uk/riverfront

Opening Times

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 09:00 – 17:00 ac yn hwyrach os bydd sioe neu ddigwyddiad.

Glan yr Afon

gwybodaeth am y lleoliad

Mae Glan yr Afon yn ceisio bod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb, ac rydym yn ymrwymedig i wneud eich ymweliad mor hawdd a phleserus â phosib.

Er nad yw'n hanfodol, cynghorir bod pobl ag anabledd yn archebu o flaen llaw er mwyn i ni allu darparu unrhyw gymorth. 

Mynedfeydd: Dull Gorau

Mae dwy fynedfa i Lan yr Afon. Mae un yn wynebu Ffordd y Brenin sydd â mynediad ramp neu bum gris gyda chanllawiau yn arwain at ddrysau llithro trydan. Mae dwy set o ddrysau gwthio/tynnu hefyd a ramp mynediad o fynedfa glan yr afon. 

Gwybodaeth Gadael Mewn argyfwng 

Mae'r lifft yn lifft gwagio mewn argyfwng fel y gellir ei ddefnyddio i gael unrhyw un sydd â phroblemau symudedd i wahanol lefelau. Mae hefyd nifer o bwyntiau lloches cadair olwyn o fewn y tyllau grisiau ar y llawr cyntaf os oes angen.

cyfleusterau'r lleoliad

Cyfleusterau

Mae Glan yr Afon ar dri llawr, sydd i gyd yn hygyrch mewn lifft. Mae'r cyntedd ar y llawr gwaelod ar un lefel, gan gynnwys swyddfa docynnau, caffi, toiledau ac oriel gelf. Mae un mynediad gwastad i'r theatr stiwdio ac i'r brif theatr. Mae hefyd prif risiau mawr sydd yn cynnwys ymylon stepiau hygyrch. Mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.

Mae'r ystafelloedd gweithdai, ystafell gynadledda, stiwdio ddawns a stiwdio recordio i gyd yn hygyrch ar un lefel, ond mae ganddynt nifer o ddrysau.

Mae gan Oriel yr Islawr fynediad lifft i'r man arddangos, ond mae'r goleuadau'n gyfyngedig.

Unrhyw wybodaeth arbennig am fynediad

  • Mae mynediad ramp i'r adeilad ei hun gyda chownter gwasanaeth lefel isel yn y swyddfa docynnau

  • Gall pobl fyddar a thrwm eu clyw a phobl â nam ar eu golwg nawr fwynhau'r sinema yng Nglan yr Afon gyda dangosiadau ag isdeitlau a disgrifiad sain.

  • Mae nifer fach o berfformiadau â disgrifio clywedol neu ddehongli Iaith Arwyddion Prydain. Mae nifer o seddi wedi'u cadw yn ardal briodol y theatr i gael y mynediad gorau i'r gwasanaethau hyn. Caiff y seddi hyn eu rhyddhau i’w gwerthu i unrhyw un bythefnos cyn y sioe (neu fis ymlaen llaw yn achos y Pantomeim).

  • Mae copïau llawn o raglen y tymor ar gael mewn fformatau print mawr a sain ar gais gan dîm marchnata Glan yr Afon. 

  • Mae system sain is-goch ar gael yn y prif fannau a'r theatr stiwdio, ac mae'r sain o'r ansawdd gorau drwy glustffonau. Os yw'n well gennych ddefnyddio'r switsh T ar eich cymorth clywed, bydd rhaid i chi wisgo dolen sain o amgylch eich gwddf. Gallwch fenthyg y ddwy eitem o'r swyddfa docynnau.

  • Mae gwefrwyr cadeiriau olwyn trydan ar gael yn y swyddfa docynnau i unrhyw gwsmeriaid eu defnyddio.

  • Mae naw o leoedd i gadeiriau olwyn yn y theatr ac un ar ddeg o leoedd i gadeiriau olwyn yn y stiwdio.

  • Mae croeso i gŵn cymorth, a gallwn ofalu amdanynt yn ystod perfformiadau drwy drefniant.

  • Mae gan Lan yr Afon ddau le parcio dynodedig a gedwir i ddeiliaid bathodynnau glas bob amser a phedwar o leoedd ychwanegol ar gael gyda'r nos. Yn anffodus, ni ellir cadw'r rhain.

  • Mae mynediad lifft i'r ail lawr a mynediad i gadeiriau olwyn a thoiledau hygyrch ar bob lefel

lleoedd

Mae'r brif theatr a'r Oriel Gelf yn agosach at y toiledau, ond mae'r Theatr Stiwdio ychydig yn bellach i ffwrdd ar ochr arall y cyntedd.

Cyrraedd Yma: Cludiant / Parcio 

Mae’r ganolfan mewn lleoliad defrydol yng nghanol dinas Casnewydd, 5 munud o'r M4 a 90 munud o Lundain ar y trên gyda gwasanaethau bws uniongyrchol o feysydd awyr Heathrow a Gatwick. Mae gan Gasnewydd ddau faes awyr rhyngwladol arall - Caerdydd a Bryste - o fewn awr o yrru. 

Mae Glan yr Afon gyferbyn â'r brif orsaf fysiau, 10 munud ar droed o orsaf drenau Casnewydd a 5 munud o brif ganolfan siopa'r ddinas. Mae Glan yr Afon yn hawdd ei gyrraedd ar droed, mewn car, coets a thrên. 

Lawrlwythwch ein Taflen Gwybodaeth Gyffredinol am ragor o wybodaeth am gyfarwyddiadau a'n cyfleusterau. 

Am ragor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i'w gwefan www.traveline.org.uk 

Ar y Ffordd O'r M4 (Cyffordd 26), dilynwch yr arwyddion i ganol y ddinas ar hyd Ffordd Malpas (A4051), o dan y drosffordd ac ar hyd Ffordd y Brenin. Mae Glan yr Afon ar y chwith i chi. Mae'n bosib gollwng a chasglu y tu allan i'r adeilad, drwy wasgu'r botwm wrth rwystr y fynedfa ar ochr y castell i'r adeilad. 

Parcio Mae parcio talu ac arddangos cyfyngedig y tu allan ychydig ymhellach ar hyd glan yr afon, heibio adeilad Alacrity ac mae maes parcio dan do aml-lawr Canolfan Ffordd y Brenin ar agor o 07:00 tan hanner nos bob dydd. 

Mae maes parcio Glan yr Afon (heibio adeilad Alacrity) yn rhad ac am ddim ar ôl 18:30 o nos Lun i nos Sadwrn, drwy'r dydd ar ddydd Sul ac i bob deiliaid bathodyn anabl. Dydd Llun i ddydd Sadwrn o 08:00 tan 18:30, mae'n £1 am hyd at 3 awr, £3.50 am 3 i 5 awr a £4.50 am dros 5 awr. Mae Maes Parcio Ffordd y Brenin am ddim am y 2 awr gyntaf o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (7:00-18:00), ac yna £2 am 2 i 5 awr a £4 am dros 5 awr. Dim ond £1 pob nos rhwng 18:00 a hanner nos, nos Llun i nos Sadwrn, drwy'r dydd ar ddydd Sul a gwyliau banc. 

Mae gwaith adeiladu ar ganolfan siopa yng Nghasnewydd, felly os ydych yn parcio ym Maes Parcio Ffordd y Brenin, defnyddiwch yr allanfa a'r fynedfa ger Canolfan Casnewydd. 

print page