Theatr Felinfach

Theatr Felinfach
Dyffryn Aeron
Ceredigion 

SA48 8AF

Get in Touch

call: 01570 470697
visit: www.theatrfelinfach.com/

Opening Times

Mae'r Swyddfa Docynnau ar agor o 08:45yb - 5:00yp o ddydd Llun i ddydd Iau a hyd 4:30yp ar dydd Gwener. Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael y tu allan i oriau swyddfa. Gallwch hfyd brynu tocynnau ar-lein 7 diwrnod o'r wythnos. www.theatrfelinfach.com

 

Theatr Felinfach

gwybodaeth am lleoliad

Mae Theatr Felinfach yn ymgeisio i fod yn hygyrch i bawb, ond mae bob amser lle i wella a byddem yn gwerthfawrogi eich adborth.

 

mynedfeydd

Mae pob math o ystafelloedd cyfarfod ar Gampws Felinfach sy'n amrywio o ran maint a naws, o rai ar gyfer cyfarfodydd bychain iawn hyd at ri sy'n dal 260 o bobl. Mae'r adnoddau yn y Theatr ac ar y Campws yn addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd, sesiynau creadigol, ymarferion a chynadleddau. Mae gan Gampws Felinfach adnoddau clyweled o'r radd flaenaf, gan gynnwys taflunydd digidol sgrin fawr, taflunedd mewn amryw o'r ystafelloedd cyfarfod, system ddiwifr gyhoeddus a Stiwdio Sain a Recordio. Gallwn hefyd ddarparu amrywiaeth o luniaeth yn ôl eich anghenion.

Mae'r Lolfa ar y llawr gwaelod lle ceir hefyd siop, caffi a bar fel bo'r angen. Mae'r Lolfa yn arwain i'r awditoriwm.

Mae gan y Theatr llwyfan eang ac awditoriwm 260 sed sydd wedi ei gosod ar oledd ("raked"), sy'n golygu bod grisiau bob ochr i'r seddau. Serch hynny, mae rhes flaen y seddau ar y llawr gwaelod ac mae modd eu cyrraedd heb risiau.

Mae'r Ystafell Gynadledda wedi ei lleoli ar y llawr 1af yn y Theatr a'r unig ffordd i'w chyrraedd yw trwy ddringo grisiau.

Mae'r Gwndwn a'r Stiwdio recordio mewn adeilad ar wahân sydd wedi ei lleoli ar waelod y maes parcio.

www.campws.org

print page