Theatr y Grand Abertawe

Stryd Singleton
Abertawe

SA1 3QJ

Get in Touch

call: 01792 475715
email: swansea.grandmarketing@swansea.gov.uk
visit: www.swanseagrand.co.uk

Opening Times

09:30 – 20:00 ac 1 awr cyn perfformiadau dydd Sul.

Theatr y Grand Abertawe

gwybodaeth am y lleoliad

Mae Theatr y Grand yn lleoliad adloniant gyda thri llawr yn y prif awditorium. Mae'r lifft yn Adain y Celfyddydau yn rhoi mynediad i bob llawr o'r theatr gan gynnwys y Cylch Mawr a'r Cylch Uchaf yn y prif awditoriwm. Mae mynediad lefel i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i'r seddau a hefyd i far Footlights.

Mynedfeydd: y Ffordd Orau

Y ffordd orau i mewn i'r theatr yw trwy fynedfa'r swyddfa docynnau lle mae'r lifft yn hawdd ei gyrraedd ac mae staff ar gael i gynorthwyo. Mae'r fynedfa i'r seddau'n wastad ac mae dwy set o risiau i'r Cylch Mawr a'r Cylch Uchaf y naill ochr i'r awditoriwm. Mae tywyswyr ar gael i bob mynedfa i'r awditoriwm i gynnig cymorth pellach. Mae mynedfa arall hefyd drwy far a bwyty Footlights gyda mynediad i'r ardd a'r ystafell wydr.

Lleoedd

Mae dwy brif fynedfa i'r theatr – y swyddfa docynnau a bar a bwyty Footlights. Ar ôl i berfformiad ddod i ben, bydd pedwar drws tân arall yn agor i gwsmeriaid adael y theatr. Mae'r rhain yng nghefn y seddau sy'n arwain i Stryd Singleton. Mae toiledau ar bob un o'r tair lefel yn agos at ddrysau'r awditoriwm. Mae toiledau eraill yn ardal y swyddfa docynnau. Mae'r stiwdio Depot yn Adain y Celfyddydau ar Lefel 3 gyda grisiau a mynediad lifft. Mae grisiau a mynediad lifft hefyd i'r mannau arddangos ar y tair lefel yn Adain y Celfyddydau.

Gwybodaeth Gadael Mewn Argyfwng

Mae synwyryddion mwg ym mhob rhan o'r theatr ac Adain y Celfyddydau sy'n dechrau'r system larwm, wrth ddrws y llwyfan. Os bydd rhaid gadael yr adeilad, bydd yr Uwch Reolwr Tŷ'n gwneud cyhoeddiad o'r llwyfan i'r cyhoedd. Bydd aelod staff yn mynd gyda chwsmeriaid anabl. Bydd cwsmeriaid ag anabledd yn gadael ar ôl ymwelwyr abl. Bydd y tywysydd ar ddyletswydd yn eich arwain at y llwybr gwacáu perthnasol ac yn defnyddio cadeiriau gwacáu priodol os bydd rhaid. 

Mae'r rhain y tu allan i ddrysau'r awditoriwm ar ddwy ochr y Cylch Mawr.

Adain y Celfyddydau

Cyfeirir y cyhoedd i'r allanfa dân agosaf i'r digwyddiad. Y man cadw i bobl ag anableddau fydd yr allanfa dân gefn, lle bydd tywysydd yn aros gyda'r ymwelydd ac yn cyfathrebu gyda radio

Cyfleusterau'r Lleoliad

Mae Theatr y Grand yn cynnig nifer o ystafelloedd cyfarfod:

  • Bar cylch 
  • Bar Noddwyr 
  • Stiwdio Depot 
  • Caffi Bar To 
  • Stiwdio Gefn 
  • Ystafell Wen

Mae gan yr holl ystafelloedd cyfarfod fynediad gwastad neu rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae ein mannau arddangos y tu allan i ddrysau'r lifft gyda mynediad hawdd o'r swyddfa docynnau.

Mae'r bar a'r bwyty ar lawr gwaelod y theatr, ac mae ramp cadeiriau olwyn i'r ystafell wydr. Defnyddir arwyddion clir i gyfeirio cwsmeriaid yn uniongyrchol i bob rhan o'r adeilad. Mae toiledau hygyrch y naill ochr i'r awditoriwm ger y bar a'r swyddfa docynnau. Gall y staff roi allwedd ar gais.

Unrhyw Wybodaeth Arbennig am Fynediad

Mae deg lleoliad ar gael yn y seddi gwaelod i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a dau leoliad yn y Cylch Mawr gyda mynediad gwastad a ramp i'r awditoriwm. Mae'r lifft yn y swyddfa docynnau'n rhoi mynediad i'r Stiwdio Depot ar Lefel 3 gyda mynediad gwastad i bedwar lle i gadeiriau olwyn. 

Rhagor o Wybodaeth

Mae croeso i gŵn tywys yn y theatr, ac mae cadair olwyn ychwanegol ar gael ar gais. Mae system glyw is-goch ar gael yn ein siop i'w defnyddio yn y prif awditoriwm i bobl trwm eu clyw. Bydd clustffonau neu dderbynnydd dolen wddf yn cael eu darparu i'w defnyddio yn yr awditoriwm. Mae gennym hefyd system glyw gludadwy i'w defnyddio mewn rhannau eraill o'r theatr.

Gwasanaethau

  • Gellir dod â diodydd i gwsmeriaid yn ystod yr egwyl os gofynnir.
  • Mae copïau print bras a braille o'r llyfryn ar gael ar gais yn y swyddfa docynnau.
  • Rydym yn hapus i ofalu am gŵn tywys yn ystod y perfformiad. 

Gyrraedd Yma: Cludiant / Parcio 

Mae gorsaf fysiau Abertawe mewn lle cyfleus y tu ôl i'r theatr. Mae gorsaf drenau Abertawe tua 15 munud o gerdded drwy ganol y ddinas.

Mae gorsaf drenau Abertawe ar y Stryd Fawr. O'r fan hon mae gwasanaeth bws rheolaidd i orsaf fysus y Cwadrant gerllaw’r theatr. Fel arall, cerddwch heibio Gwesty'r Grand i lawr y Stryd Fawr, bydd siop Argos ar y chwith, hyd nes i chi gyrraedd y castell ar y chwith a Gerddi'r Castell ar y dde. Yma, croeswch y ffordd a cherddwch ar ochr dde Gerddi'r Castell i Stryd Rhydychen rhwng McDonalds a BHS a cherddwch yn syth nes cyrraedd tafarn Eli Jenkins, lle dylech droi i'r chwith. Yna, gyda'r orsaf fysiau a Wilkinsons o'ch blaen, trowch i'r dde wrth y groesffordd i gyrraedd y theatr.

Mae maes parcio awyr agored yn Stryd Singleton ar flaen y theatr.

Mae maes parcio aml-lawr y Cwadrant bellach ar gael i'w ddefnyddio gan gwsmeriaid theatr, gyda'r awr gyntaf am ddim pan gaiff eich tocyn ei ddilysu yn ein hadeilad. Caniatewch ddigon o amser cyn y sioe i barcio.

print page