1cwblhau'r ffurflen gais

Gallwch wneud cais am eich cerdyn drwy e-bost. Atodwch y ffurflen wedi'i chwblhau, ffotograff wedi'i sganio a phrawf cymhwyster, neu argraffwch y ffurflen a'i chwblhau a'i phostio atom gyda ffotograff a chopi o brawf cymhwyster.

Os nad ydych chi'n gallu llenwi'r ffurflen ar eich cyfrifiadur neu os nad oes gennych rywun allai eich helpu gyda hyn, cysylltwch â'ch theatr neu ganolfan gelfyddydau leol. Dylen nhw allu postio ffurflen bapur atoch chi. 

2llun deiliad y cerdyn

I alluogi gwirio'n hawdd yn y theatr neu ganolfan gelfyddydau, amgaewch ffotograff lliw maint pasbort sy'n llun gywir a diweddar o ddeiliad y cerdyn. Ysgrifennwch enw deiliad y cerdyn ar gefn y llun. 

3prawf cymhwysedd

Amgaewch brawf cymhwysedd. Dim ond un darn o dystiolaeth sy'n rhaid i chi ei anfon. Anfonwch gopïau yn unig o'ch dogfen ategol. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol gan nad ydym yn gallu eu dychwelyd.

  • Elfen Byw Dyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Uwch neu Safonol
  • Elfen Gofal Uchel neu Ganolig Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweini Cyfradd Uchel
  • Tystysgrif Nam ar y Golwg
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Wedi Cofrestru am Daliadau Uniongyrchol
  • Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Pecyn Gofal Iechyd Parhaus
  • Nam Deuol ar y Synhwyrau

4gwiriadau cais

Cyn anfon eich cais, gwiriwch y pwyntiau canlynol:

  • Bod eich enw a'ch cyfeiriad yn gywir ac yn gyflawn
  • Eich bod wedi amgáu llun ohonoch chi eich hun
  • Eich bod wedi amgáu dogfen yn darparu prawf cymhwysedd
  • Eich bod wedi gwirio bod y tâl post cywir wedi'i gynnwys

E-bostiwch neu bostiwch eich cais at applications@hynt.co.uk

Cerdyn Hynt, Network House, Ffordd St Ives, Sandycroft, Sir y Fflint. CH5 2QS

Am ragor o wybodaeth ewch i www.hynt.co.uk neu cysylltwch â'n desg gymorth ar 01244 526001. Os oes angen y gwasanaeth cyfnewid testun, ffoniwch 18001 01244 526001.