cyflafareddu

Mae cyflafareddu'n rhan bwysig o Hynt. Mae'n golygu, os nad ydych yn gymwys yn awtomatig ar gyfer Hynt, efallai y byddwch yn dal i allu ymuno â'r cynllun.

Beth yw cyflafareddu?

Buon ni’n gweithio gyda phobl anabl gyda phob math o namau i greu meini prawf cymhwysedd awtomatig ar gyfer Hynt. Mae'r meini prawf yn wrthrychol ac yn cynrychioli anghenion gwirioneddol pobl anabl ac wedi'u hasesu. Ond rydym hefyd yn gwybod bod gan rai pobl anghenion mynediad eraill nad ydynt ar ein rhestr sy'n golygu bod angen gofal ychwanegol arnynt.

Os oes gennych anghenion mynediad nad ydynt ar ein meini prawf cymhwysedd awtomatig neu os caiff eich cais gwreiddiol ei wrthod, gallwch ddefnyddio cyflafareddu.

Os oes angen mwy nag un gofalwr arnoch i fod yn bresennol gyda chi, gallwch hefyd ddefnyddio cyflafareddu i weld a oes gennych hawl i fwy nag un tocyn am ddim.

cynghorwyr cyflafareddu

Rheolir cyflafareddu gan Diverse Cymru. Maent yn gweithio gyda grŵp o bobl ag amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd ar namau o bob math a hynny ledled Cymru. Mae rhai ohonynt yn perthyn i elusennau anabledd neu sefydliadau cymorth cenedlaethol, mae rhai yn rhan o grwpiau mynediad lleol neu gymdeithasau byw'n annibynnol.

Gelwir y bobl hyn yn Gynghorwyr. Maent yn ein helpu i wneud penderfyniadau trwy ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i'n helpu i ddeall os gallai fod angen cymorth ar rywun gan ofalwr neu gynorthwyydd personol i allu mynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau.

Bydd Cynghorwyr yn benodol yn:

  • meddu ar wybodaeth ac arbenigedd sylweddol ynghylch gweithio gyda phobl anabl â namau amrywiol
  • gallu dangos ymrwymiad i werthoedd ac egwyddorion cynllun Hynt.

Rydym bob amser yn chwilio am Gynghorwyr newydd i ymuno â'r grŵp felly os oes gennych chi neu'ch sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch a Dawn Ashton yn Diverse Cymru: dawn.ashton@diverse.cymru

gwerthoedd ac egwyddorion cyflafareddu

Mae gwerthoedd ac egwyddorion cyflafareddu yr un fath â gwerthoedd ac egwyddorion Hynt:

Rydym yn fenter dan arweiniad cymheiriaid wedi'n gwreiddio yn model cymdeithasol anabledd. Gan weithio gyda'n gilydd gyda phobl anabl, gofalwyr a'r trydydd sector, rydym am wella ansawdd y gwasanaeth a'r profiad yn ein theatrau a'n canolfannau celfyddydau  i unrhyw un â gofyniad mynediad penodol.

Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo hygyrchedd ac i annog mwy o bobl i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau ledled Cymru.

Rydym yn ymrwymedig i’r canlynol:

Tegwch

Byddwn yn trin pobl yn gyfartal heb ffafriaeth nac anffafriaeth. Byddwn yn ceisio bod â barn gytbwys, a byddwn yn egluro ein penderfyniadau'n glir. Byddwn bob amser yn gwrando ar safbwyntiau a barn eraill ac yn eu hystyried.

Dealltwriaeth

Byddwn yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ar draws ein holl waith. Byddwn yn ceisio bod yn ystyriol o bob sefyllfa neu amgylchiadau unigol bob amser.

Bod yn Agored

Byddwn mor agored â phosib ynghylch yr holl benderfyniadau a'r camau a gymerwn. Byddwn yn rhoi rhesymau am ein penderfyniadau a'r unig amser y byddwn yn celu gwybodaeth yw pan fydd diogelu data a phreifatrwydd unigolyn mewn perygl. Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei ddatgan.

Eglurder

Byddwn bob amser yn ceisio bod yn eglur. Byddwn yn defnyddio iaith glir. Byddwn yn esbonio unrhyw beth sy'n aneglur i chi. Byddwn yn ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau ac adborth.

Cysondeb

Byddwn yn ceisio bod yn gyson wrth wneud penderfyniadau, cyfathrebu a gweithredu. Byddwn yn monitro ein perfformiad a byddwn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella.  

y broses gyflafareddu

Byddwch yn llenwi ffurflen gais a'i hanfon at Hynt. Os ydych chi'n gwybod nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd awtomatig, gallwch dicio'r blwch ar y ffurflen gais sy'n mynd yn syth i gyflafareddu.

Os byddwn yn derbyn eich ffurflen gais, ond yn methu â'i phrosesu am ei bod y tu allan i'r meini prawf cymhwysedd awtomatig, yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio'r sefyllfa ac yn rhoi gwybod i chi am gyflafareddu.

Cewch chi benderfynu os hoffech i'ch cais fynd i gyflafareddu. Os byddwch yn penderfynu mynd drwy gyflafareddu, bydd aelod staff Diverse Cymru yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Y person hwn fydd eich canolwr.

Bydd y canolwr yn gofyn i chi ddisgrifio'ch sefyllfa. Bydd yn gofyn am y rhwystrau rydych yn teimlo sy'n eich wynebu a'r rhesymau y gallai fod angen gofal ychwanegol arnoch i fynychu theatr neu ganolfan gelfyddydau. Ar ôl cysylltu â chi, bydd yn ystyried yr wybodaeth, ac yn penderfynu a oes angen cysylltu â Chynghorydd i gynorthwyo. Byddai'r person hwn yn rhywun â gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd perthnasol. Bydd y canolwr wedyn yn dod i benderfyniad terfynol ynghylch eich cymhwysedd ar gyfer cerdyn Hynt. Bydd yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Bydd wedyn yn dweud wrth dîm Hynt am y penderfyniad ac yn trosglwyddo'r wybodaeth briodol iddynt.

Os ydych yn anhapus gyda'r penderfyniad, dylech gysylltu â thîm Hynt yn uniongyrchol ar info@hynt.co.uk a byddwn yn eich cynghori am ba gamau pellach y gallwn eu dilyn.

gwneud penderfyniadau

Mae cerdyn Hynt yn darparu tocyn am ddim i ofalwr neu gynorthwyydd personol i unrhyw un sydd angen y math hwn o gymorth. Bydd canolwyr yn ystyried a oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol sy'n golygu na fyddech yn gallu mynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau heb ofal ychwanegol gan berson arall.

Bydd canolwyr yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych ynghyd â'u gwybodaeth a'u harbenigedd i ddod i benderfyniad teg a chytbwys. Os nad yw'r wybodaeth na'r arbenigedd perthnasol ganddynt neu os hoffent ragor o wybodaeth am ofyniad mynediad penodol, byddant yn cysylltu ag un o'r sefydliadau ymgynghorol i gael dealltwriaeth ychwanegol.

Mae Hynt yn canolbwyntio ar yr unigolion hynny sydd angen gofal ychwanegol er mwyn mynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau. Rydym yn cydnabod bod nifer o rwystrau eraill i ymgysylltu. Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi'r sector i fynd i'r afael â materion mynediad ehangach.

Bydd canolwyr yn cysylltu â chi i ddod i ddeall eich amgylchiadau penodol. Byddant yn gofyn i chi ddweud y rhesymau wrthynt pam rydych yn teimlo bod angen cefnogaeth cynorthwyydd personol neu ofalwr arnoch i fynychu'r theatr.

Rydym wedi ymrwymo i degwch, cysondeb a bod yn agored. Rydym am sicrhau bod ein penderfyniadau'n glir. Bydd yr holl gyfathrebu rhyngoch chi a chanolwr drwy e-bost neu lythyr. Fel hyn, gallwn sicrhau bod gennym gofnod clir o bob penderfyniad a wnawn.

Bydd yr holl gyfathrebu rhyngoch chi a chanolwr yn gyfrinachol. Dim ond yr wybodaeth rydych yn teimlo sy'n berthnasol a'ch bod yn gyfforddus i'w rhannu y mae angen i chi ei darparu. Ni fyddwn yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth adnabod chwaith, am y bydd gan bob cais gyfeirnod unigryw.

Mae cyflafareddu'n broses syml. Rydym yn awyddus i ddeall eich amgylchiadau y gorau gallwn. Mae hynny'n golygu y gallwn wneud penderfyniad deallus ynghylch a ydych yn gymwys i gael tocyn am ddim i ofalwr neu gynorthwyydd personol.

Dylech ddisgwyl penderfyniad ynghylch eich cyflafareddu o fewn 7 niwrnod.

Bydd canolwr yn eich hysbysu chi o'r penderfyniad terfynol yn gyntaf. Byddant wedyn yn gadael i dîm Hynt wybod fel y gallwn gwblhau eich cais. 

y drefn gwyno

Rydym wedi gweithio gyda phobl anabl, sefydliadau trydydd sector a theatrau a chanolfannau celfyddydau  i greu Hynt fel ei fod mor deg a chlir â phosib.

Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau nad yw pobl y mae arnynt angen gofalwr neu gynorthwyydd personol i fynychu perfformiad yn wynebu rhwystr ariannol prynu tocyn ar gyfer eu gofalwr.

Rydym yn ymrwymedig i egwyddorion a gwerthoedd tegwch, dealltwriaeth, bod yn agored, eglurder a chysondeb.

Os ydych yn anfodlon am unrhyw benderfyniad a wneir neu unrhyw gamau rydym wedi'u cymryd, cysylltwch â ni. Rydym yn ymrwymedig i ymateb i bob beirniadaeth ac adborth yn gadarnhaol. Dyma'r unig ffordd y gallwn barhau i wella Hynt ac ansawdd ein gwaith.

Byddwn yn agored ac yn onest ac yn ceisio datrys unrhyw gŵyn yn deg. Os nad yw hyn yn bosib, byddem yn hapus i ddefnyddio cyfryngu annibynnol fel ffordd o ddatrys unrhyw faterion sy'n weddill.

training

Rheolir cyflafareddu gan Diverse Cymru. Mae pob canolwr yn cael hyfforddiant er mwyn gallu gwneud penderfyniadau cyson a theg. Fel rhan o'r hyfforddiant, byddwn yn sicrhau bod:

  • Canolwyr yn deall gwerthoedd Hynt.
  • Canolwyr yn deall y broses gyflafareddu'n llawn.
  • Canolwyr i gyd yn gweithio gan ddilyn yr un fframwaith gwneud penderfyniadau.
  • Canolwyr i gyd yn gwybod yr un wybodaeth ac arweiniad.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Golwg gyffredinol ar Hynt a pham ei fod yn bwysig
  • Y meini prawf cymhwysedd awtomatig, sut y penderfynwyd arnynt, a sut maent yn gweithio
  • Pam bod angen cyflafareddu
  • Sut mae cyflafareddu'n gweithio
  • Gwneud penderfyniadau

monitro ac adolygu

Rhaid sicrhau bod cyflafareddu'n deg a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dda. Er mwyn gwneud hyn mae gennym broses o fonitro ac adolygu. Bydd hyn yn cynnwys:

Archwilio penderfyniadau ar hap

Byddwn yn edrych yn gyson ar ddetholiad o benderfyniadau ac yn eu cymharu. Mae hyn yn golygu y gallwn nodi unrhyw anghysondebau neu broblemau. Os bydd sefyllfaoedd neu heriau cyffredin, gallwn ddysgu ohonynt. Er enghraifft, efallai y byddwn yn nodi anghenion hyfforddi posib neu'n deall y rhwystrau y mae'n cynulleidfaoedd yn eu hwynebu'n well . Bydd yr wybodaeth hon yn werthfawr o ran helpu i ddatblygu Hynt, a bydd yn llywio unrhyw newidiadau i'r cynllun yn y dyfodol.

Cysylltiad rheolaidd â chanolwyr unigol i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor

Byddwn yn rhoi cymorth a chyngor ychwanegol i ganolwyr. Bydd cyswllt rheolaidd hefyd yn darparu cyfleoedd i ganolwyr gyflwyno unrhyw sylwadau neu heriau i ni. Bydd y dysgu'n cael ei rannu gyda'r holl ganolwyr i'n helpu i wella'r ffordd rydym yn gwneud pethau.

Adolygiad parhaus

Rydym am gael sgwrs barhaus gyda phawb sy'n gysylltiedig â Hynt. Rydym yn gwybod bod y materion mynediad a gofal rydym yn mynd i'r afael â hwy'n bwysig ac yn gymhleth. Rydym yn deall y bydd rhaid i Hynt fod yn ymatebol. Nid ydym yn disgwyl cael pethau'n iawn bob amser. Byddwn yn gwrando ar adborth ac yn dod o hyd gyfleoedd i drafod cyfleoedd a heriau. Fel hyn, gallwn wella'n barhaus.

grŵp llywio

Mae gan Hynt grŵp llywio. Grŵp o bobl yw hwn sy'n ein helpu i redeg Hynt. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys amrywiaeth o bobl megis: pobl anabl, sefydliadau trydydd sector, theatrau a chanolfannau celfyddydau , a sefydliadau celfyddydol. Byddant hefyd yn ein helpu i fonitro cyflafareddu a byddwn yn adrodd iddynt.