unigolion

Mae rhai gofynion cymhwysedd y bydd angen i chi eu bodloni fel rhan o'r broses hon. Cliciwch yma am restr lawn o'r gofynion hyn.

Mae proses ymgeisio Hynt wedi'i dylunio i fod mor gyflym a syml â phosib.  Mae'r ffurflen gais ar gael yma dolen. Gellir argraffu'r ffurflen, felly gallwch ddewis ei chwblhau ar-lein a'i lawrlwytho i e-bost, neu ei hargraffu a'i chwblhau â llaw. Bydd ffurflenni cais hefyd ar gael yn swyddfeydd tocynnau lleoliadau os byddai'n well gennych ofyn am un y ffordd honno.

Unwaith y bydd eich ffurflen wedi'i llenwi a'i hanfon at y Card Network ynghyd â'r dystiolaeth ategol ofynnol a ffotograff cyfredol, bydd y broses ganlynol yn digwydd:

  • Bydd y Card Network yn prosesu eich cais ac yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi
  • Os yw eich cais yn gyflawn ac yn bodloni'r meini prawf bydd y Card Network yn rhoi eich gwybodaeth ar gronfa ddata Hynt ac yn creu eich cerdyn Hynt a fydd wedyn yn cael ei anfon atoch gyda llythyr croeso
  • Os nad yw eich cais yn bodloni'r meini prawf, neu bod angen gwybodaeth bellach, bydd y Card Network yn rhoi gwybod i dîm prosiect Hynt a fydd yn cysylltu â chi a thîm Cyflafareddu Hynt i ddatrys y sefyllfa. I gael rhagor o wybodaeth am broses Cyflafareddu Hynt, cliciwch yma Dolen

Er mwyn sicrhau eich bod yn deall y broses yn iawn, rydym wedi creu taflen cwestiynau cyffredin a ddylai ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses. Yn ogystal â hyn, mae amlinelliad llawn o delerau ac amodau'r cynllun ar gael yma. Os oes unrhyw gwestiynau penodol nad ydynt wedi'u hateb yma, neu os byddai'n well gennych siarad â rhywun dros y ffôn, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o Dîm Prosiect Hynt

Mudiadau, Sefydliadau ac Asiantaethau Cefnogi 

Rydym yn gwybod fod llawer o fudiadau, sefydliadau ac asiantaethau cefnogi'n credu fod mynediad i'r celfyddydau ac i weithgareddau diwylliannol yn bwysig i'w cleientiaid a'u trigolion. Maen nhw'n gweithio'n galed i drefnu ymweliadau i theatrau a chanolfannau celfyddydau ac yn aml gall fod yn broses cymhleth sy'n cymryd llawer o amser.

Rydym eisiau cefnogi theatrau a chanolfannau celfyddydau i ddatblygu perthynas gyda mudiadau, sefydliadau ac asiantaethau cefnogi. Fe wnawn hyn drwy ddarparu help a chefnogaeth i ganolfannau Hynt. Mae cerdyn Hynt wedi cael ei greu ar gyfer unigolion sydd angen gofal er mwyn ymweld â theatr neu ganolfan gelfyddydau. Nid yw wedi'i ddylunio i weithio ar gyfer grwpiau o'r math yma. Bydd angen cerdyn Hynt ar bob un o'r trigolion neu'r bobl dan eich gofal os ydych chi'n archebu ar ran mudiad, sefydliad neu asiantaeth gefnogi.

Mewn sefyllfa fel hyn awgrymwn fod theatrau a chanolfannau celfyddydau'n gofyn i bob grŵp ddarparu asesiad risg ar eu cyfer, wedi ei gwblhau gan drefnydd y grŵp. Dylai hyn esbonio anghenion gofal y rhai fydd yn mynychu'r digwyddiad sy'n cael ei drefnu. Bydd hyn yn h

Rydym yn gwybod fod llawer o fudiadau, sefydliadau ac asiantaethau cefnogi'n credu fod mynediad i'r celfyddydau ac i weithgareddau diwylliannol yn bwysig i'w cleientiaid a'u trigolion. Maen nhw'n gweithio'n galed i drefnu ymweliadau i theatrau a chanolfannau celfyddydau ac yn aml gall fod yn broses cymhleth sy'n cymryd llawer o amser.

Rydym eisiau cefnogi theatrau a chanolfannau celfyddydau i ddatblygu perthynas gyda mudiadau, sefydliadau ac asiantaethau cefnogi. Fe wnawn hyn drwy ddarparu help a chefnogaeth i ganolfannau Hynt. Mae cerdyn Hynt wedi cael ei greu ar gyfer unigolion sydd angen gofal er mwyn ymweld â theatr neu ganolfan gelfyddydau. Nid yw wedi'i ddylunio i weithio ar gyfer grwpiau o'r math yma. Bydd angen cerdyn Hynt ar bob un o'r trigolion neu'r bobl dan eich gofal os ydych chi'n archebu ar ran mudiad, sefydliad neu asiantaeth gefnogi.

Mewn sefyllfa fel hyn awgrymwn fod theatrau a chanolfannau celfyddydau'n gofyn i bob grŵp ddarparu asesiad risg ar eu cyfer, wedi ei gwblhau gan drefnydd y grŵp. Dylai hyn esbonio anghenion gofal y rhai fydd yn mynychu'r digwyddiad sy'n cael ei drefnu. Bydd hyn yn helpu theatrau a chanolfannau celfyddydau i ddeall anghenion y grŵp a chlustnodi tocynnau yn rhad ac am ddim i Ofalwyr a Chynorthwywyr Personol lle mae hynny'n briodol.

Os yw theatr neu ganolfan gelfyddydau'n ansicr ynghylch faint o Ofalwyr neu Gynorthwywyr Personol fydd eu hangen ar grŵp, gall ofyn am gyngor gan ein hymgynghorwyr cyflafareddu.

Cyfrifoldeb y theatr neu'r ganolfan gelf fydd y penderfyniad terfynol ynghylch archebion grŵp bob amser. Cysylltwch â'ch theatr neu ganolfan gelfyddydau leol i drafod anghenion eich grŵp penodol. 

elpu theatrau a chanolfannau celfyddydau i ddeall anghenion y grŵp a chlustnodi tocynnau yn rhad ac am ddim i Ofalwyr a Chynorthwywyr Personol lle mae hynny'n briodol.

Os yw theatr neu ganolfan gelfyddydau'n ansicr ynghylch faint o Ofalwyr neu Gynorthwywyr Personol fydd eu hangen ar grŵp, gall ofyn am gyngor gan ein hymgynghorwyr cyflafareddu.

Cyfrifoldeb y theatr neu'r ganolfan gelf fydd y penderfyniad terfynol ynghylch archebion grŵp bob amser. Cysylltwch â'ch theatr neu ganolfan gelfyddydau leol i drafod anghenion eich grŵp penodol. 

Grwpiau cymdeithasol 

Os ydych chi'n archebu ar gyfer grŵp cymdeithasol, er enghraifft ar gyfer grŵp mawr o ffrindiau sy'n dod gyda'i gilydd, yna bydd angen i bob cwsmer anabl o fewn y grŵp fod â'u cerdyn Hynt ei hun. Bydd hyn yn galluogi pob un ohonynt i hawlio tocyn am ddim ar gyfer Cynorthwyydd Personol neu Ofalwr.