meini prawf cymhwysedd

Fel rhan o’r broses gwneud cais i Hynt, bydd rhaid i chi gynnwys tystiolaeth yn dangos eich bod chi neu'r person rydych yn cwblhau'r cais ar ei ran/rhan yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol:

  • Elfen  Byw Dyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Uwch neu Safonol
  • Elfen Gofal Uchel neu Ganolig Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweini Cyfradd Uchel
  • Tystysgrif Nam ar y Golwg
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Wedi Cofrestru am Daliadau Uniongyrchol
  • Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Pecyn Gofal Iechyd Parhaus
  • Nam Deuol ar y Synhwyrau

Bydd rhaid i chi anfon gwaith papur atom i gadarnhau eich bod chi, neu'r ymgeisydd rydych yn gwneud cais ar ei ran, yn derbyn un o'r budd-daliadau a restrir yn ein meini prawf. Rhaid i ni weld copi o un o'r dogfennau canlynol:

  • Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cadarnhau eich bod chi neu'r person rydych yn gwneud cais ar ei ran yn derbyn un o'r budd-daliadau a restrir yn y meini prawf
  • Llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol sy’n cadarnhau eich bod chi neu'r person rydych yn cyflwyno cais er ei ran wedi derbyn Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol, Pecyn Gofal Iechyd Parhaus neu wedi cofrestru ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
  • Tystysgrif Nam ar y Golwg

Os nad ydych yn sicr eich bod yn gymwys neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cliciwch yma am gwestiynau cyffredin penodol ar y pwnc