polisi preifatrwydd

Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd holl gwsmeriaid Hynt. Mae'r polisi hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ac yn trin eich gwybodaeth bersonol.

Caiff Hynt ei gynnal a'i reoli gan Greu Cymru. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gyflawni'r cynllun.

Mae Diverse Cymru yn rheoli ac yn monitro cyflafareddu ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i dîm Hynt.

Mae'r Card Network yn prosesu holl ffurflenni cais Hynt, yn cynhyrchu cardiau Hynt ac yn rheoli ein cronfa ddata. 

Mae Include Arts yn darparu hyfforddiant i holl theatrau a chanolfannau celfyddydau  Hynt ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i dîm Hynt.

Rheolir ein proses ymgeisio gan y Card Network. Rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi pan fyddwch ar ein gwefan neu'n cyflwyno ffurflen gais.

Mae'r Card Network yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth adnabod pan fyddwch yn gwneud cais am gerdyn Hynt neu'n defnyddio gwefan Hynt, gallwch fod yn sicr y bydd ond yn cael ei defnyddio yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn.

Pa wybodaeth ydym ni'n ei chasglu?

Byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw a manylion cyswllt gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
  • Gwybodaeth ddemograffig megis cod post.
  • Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i brosesu cais am gerdyn. 

Beth ydym yn ei wneud â'r data?

  • Caiff eich data ei gadw gennym er mwyn cadw cofnodion a rheoli cynllun cerdyn Hynt. Byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer:
  • Prosesu eich cais am gerdyn Hynt a chysylltu â chi yn ôl yr angen.
  • Rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i gynllun cerdyn Hynt megis telerau ac amodau.
  • Rhoi gwybod i chi pan fydd yn bryd adnewyddu eich cerdyn.
  • Rhoi gwybod i chi am berfformiadau hygyrch. Byddwch yn derbyn yr wybodaeth hon os byddwch wedi gofyn amdano ar eich ffurflen gais.
  • Gwirio eich cerdyn pan fyddwch chi'n archebu tocynnau.

Ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i gael eich dileu'n llwyr o'n cofnodion - e-bostiwch help@hynt.co.uk gyda'ch cais

Pa mor ddiogel yw eich data?

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich holl wybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi sefydlu gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas i amddiffyn a diogelu'r wybodaeth a gasglwn.

Sut ydym yn defnyddio cwcis?

Ffeil fach yw cwci sy'n gofyn caniatâd i gael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch yn cytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu a bydd y cwci'n helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu'n gadael i chi wybod pan fyddwch yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu ceisiadau ar y we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwe deilwra ei weithrediadau i'ch anghenion, eich hoff bethau a'ch cas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau. 

Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi pa dudalennau a ddefnyddir ar wefan Hynt. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig tudalen we a gwella'n gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Byddwn ond yn defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion dadansoddi ystadegol ac yna caiff y data ei ddileu o'r system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sydd o ddefnydd i chi ac fel arall. Nid yw cwci yn rhoi mynediad i ni i'ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch mewn unrhyw ffordd, ar wahân i'r data rydych yn dewis ei rannu gyda ni.

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu eich porwr i wrthod cwcis os yw'n well gennych.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â gwefannau o'r fath ac nid yw safleoedd o'r fath o dan rym y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ein bod yn cael eich caniatâd neu ei fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud hynny. Gallwch ofyn am fanylion pa wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi weinyddol fechan i'w thalu. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch ysgrifennwch at:

Cerdyn Hynt
Network House
St Ives Way
Sandycroft
CH5 2QS 

Neu e-bostiwch help@hynt.co.uk

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch neu e-bostiwch ni cyn gynted â phosib, yn y cyfeiriad cyswllt. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth a geir i fod yn anghywir.

Cwynion

Os ydych yn credu bod y polisi hwn wedi ei dorri mewn unrhyw ffordd, dylech e-bostio swyddog prosiect Hynt, Megan Merrett, info@hynt.co.uk , yn nodi eich pryderon. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ymateb i unrhyw gwynion o'r fath.