Newyddion
Adroddiad newydd a chyfres o fideos yn dangos yr isafswm gwasanaeth y dylai pobl anabl ei gael gan leoliadau celfyddydol, orielau ac amgueddfeydd
Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltu - Cyngor Celfyddydau Cymru / Amgueddfa Cymru
Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru i ehangu ymgysylltiad â'r celfyddydau a diwylliant, mae adroddiad wedi ei chyhoeddi sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer croesawu pobl anabl i leoloadau diwylliannol, ynghyd â chyfred o fideos hygyrch i ddod â'r safonau'n fyw.
Roedd Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltu Cyngor Celfyddydau Cymru 2022-25 yn cynnwys cam weithredu i sefydlu ac ymgorffori safonau arfer gorau ar gyfer profiad defnyddwyr, cynulleidfaoedd ac ymwelwyr mewn lleoliadau celfyddydol/diwylliannol ac amgueddfeydd cenedlaethol. Bu i Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gomisiynu yr arbenigwyr ymchwil diwylliant Richie Turner Associates i ddeall yn well pam nad yw pobl anabl (gan gynnwys niwroamrywiol, pobl â nam ar eu golwg a phobl fyddar) yn mynychu nac un cymryd rhan yn y celfyddydau cymaint â phobl nad ydynt yn anabl.
Dywedodd Richie Turner, "Yn hytrach na rhestru enghreifftiau o arfer gorau, fe wnaethom ddewis datblygu safonau gofynnol. Nod y safonau gofynnol yw dangos y gwasanaeth lleiaf y dylai pob person anabl ei dderbyn gan leoliadau celfyddydol, orielau ac amgueddfeydd. Mae'r safonau wedi'u dyfeisio drwy ymgynghori'n helaeth â phobl anabl ledled Cymru, ac fe'u hywluswyd gan ymarferwyr celfyddydau a chymunedol anabl sydd â phrofiad byw o'u hanabledd penedol."
Mae'r safonau wedi'u grwpio mewn i gamau gweithredu y gofynnir i leoliadau celfyddydol o sefydliadau cyflwyno eraill sicrhau eu bod yn eu cynnig dros y blynyddoedd nesaf. Nid yw rhai camau gweithredu yn golygu unrhyw gost ariannol a dim ond ychydig o adnoddau staffio; mae camau eraill yn gofyn am rywfaint o adnoddau ariannol a staffio ac mae rhai camau gweithredu eraill yn gofyn am adnoddau a staffio sylweddol.
Ychwanega Hannah Raybould, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, "Rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth ar sefydliadau celfyddydol i gyflawni yn erbyn rhai o'r camau gweithredu arfaethedig yn yr adroddiad hwn. Mae'r ddogfen yn cefnogi ein nod parhaus i ddeall yn well yr adnoddau cyffredinol sydd eu hangen ar y sector, fel y gallwn wneud achos dros ragor o fuddsoddiad i sicrhau bod ein sector celfyddydau a diwyliant yn wirioneddol hygyrch. Mae'r camau hyn hefyd yn cysylltu â'r gwaith yr ydym yn ei wneud gydag All In, ehangiad o gynllun mynediad llwyddiannus a thrawsnewidiol Hynt yng Nghymru, a fydd yn cael ei gyflwyno gan gynghorau celfyddydau ledledy DU ac Iwerddon dros y flwyddyn nesaf.
"Rydym wedi cytuno y lylid amseru ymgynghori â lleoliadau celfyddydol a sefydliadau cyflwyno eraill yng Nghymru gyda chyhoeddi'r safonau All In newydd a manwl iawn, er mwyn symleiddio'r trafodaethau gyda'r sector ac osgoi dyblygu gwaith. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn Hydref 2026, gyda'r ymgynghoriad ledled Cymru yn cael ei gefnogi gan Richie Turner Associates."
Yn y cyfamser, mae'r adroddiad hwn a'r gyfres o fideos sy'n gysylltiedig â nhw yn rhoi cyfle i bob lleoliad, gwyliau, orielau ac amgueddfeydd celfyddydol yng Nghymru dreulio a thrafod y safonau gofynnol arfaethedig yn llawn ac ystyried y goblygiadau a'r anghenion o safbwynt eu sefydliad eu hunain.
Mae'r adroddiad ar gael yn llawn, ynghyd â fersiwn gryno darluniadol, ac fe'i cefnogirgan gan gyfres o ffilmiau sydd â'r nod o helpu lleoliadau, gwyliau, orielau ac amgueddfeyd celfyddydol i ddangos i'r holl staff cyn gynted â phosibl sut olwg sydd ar arfer da o ran creosawu ymwelwyr anabl, nam ar eu golwg, byddar a/neu niwroamrywiol.
Mae dolenni i'r holl ddeunyddiau cyhoeddedig ym mhob fformat hygyrch ar gael yma