Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr.
Os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, neu os ydych yn gofalu am rywun fel hyn, yna mae Hynt yn berthnasol i chi.
cerdyn Aelodaeth yw hynt
Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydau sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.
adnodd yw hynt
Mae Hynt yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad ac am y celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad i leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. Trwy e-ddiweddariadau rheolaidd, bydd gwefan Hynt a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Hynt yn rhannu'r wybodaeth berthnasol ddiweddaraf am fynediad i'r celfyddydau a’r theatr. Cliciwch yma i ymuno â'n rhestr bostio.