Tegwch

Rydym yn trin pobl yn gyfartal heb ffafriaeth nac anffafriaeth. Mae gennym farn gytbwys, ac rydym yn egluro ein penderfyniadau'n glir. A byddwn bob amser yn gwrando ar safbwyntiau a barn eraill ac yn eu hystyried.

Dealltwriaeth

Rydym yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ar draws ein holl waith. Rydym bob amser yn ystyriol o sefyllfaoedd ac amgylchiadau unigol.

Bod yn Agored

Rydym mor agored â phosib ynghylch yr holl benderfyniadau a'r camau a gymerwn. Byddwn yn rhoi rhesymau am ein penderfyniadau a'r unig amser y byddwn yn celu gwybodaeth yw pan fydd diogelu data a phreifatrwydd unigolyn mewn perygl. Byddwn yn datgan unrhyw wrthdaro buddiannau os byddant yn digwydd. 

Eglurder

Byddwn bob amser yn ceisio bod yn eglur. Byddwn yn defnyddio iaith glir ac yn egluro unrhyw beth sy'n aneglur i chi. Byddwn yn ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau ac adborth.

Cysondeb

Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau, wrth gyfathrebu ac wrth  weithredu. Byddwn yn monitro'r hyn rydym yn ei wneud a bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella a datblygu.