Roedden nhw am i chi wybod beth i'w ddisgwyl os byddwch yn prynu tocyn i weld sioe mewn theatr neu ganolfan gelfyddydau yng Nghymru, ac i hynny fod yn brofiad hawdd i chi. Maent hefyd yn awyddus i annog cynulleidfaoedd newydd i fwynhau'r celfyddydau ac i wella profiadau i bobl anabl.
Felly, ym mis Mawrth 2014 penododd Cyngor Celfyddydau Cymru Creu Cymru yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a lleoliadau yng Nghymru, i weithio mewn partneriaeth â Diverse Cymru i gyflwyno'r cynllun hwn sydd bellach yn cael ei alw'n Hynt.
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol gydag anghenion cynulleidfaoedd wrth ei wraidd. Mae'n seiliedig ar ddealltwriaeth o'r heriau y mae rhai cynulleidfaoedd yn eu hwynebu wrth fwynhau popeth y gall y celfyddydau a diwylliant ei gynnig. Rydym am i fannau diwylliannol Cymru fod ar gyfer pawb fel y gall pob un ohonom fwynhau profiadau ystyrlon, cofiadwy ac ysbrydoledig.
Mae HYNT yn gynllun cerdyn sy'n caniatáu i rai â chardiau gael tocyn am ddim i gynorthwywyr personol neu ofalwyr i gael eu defnyddio mewn theatrau a lleoliadau sy'n rhan o’r cynllun yng Nghymru.
Mae Hynt yn wefan lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth am berfformiadau hygyrch mewn lleoliadau ledled Cymru. Gallwch hefyd ddarllen ein canllawiau mynediad i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Mae Hynt yn rhaglen hyfforddi sy'n gweithio gyda phob theatr a chanolfan gelfyddydau sy'n cymryd rhan i wella hygyrchedd a dealltwriaeth.