Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Tiroedd y Castell
Parc Cathays
Caerdydd

CF10 3ER

Get in Touch

call: 02920 391 391
email: boxoffice@rwcmd.ac.uk
visit: www.rwcmd.ac.uk/whatson

Opening Times

Swyddfa Docynnau:

Dydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 i 17:00.

Ar nosweithiau perfformiadau, bydd y swyddfa docynnau ar agor hyd at 30 munud ar ôl dechrau'r perfformiad olaf.

Ar benwythnosau, bydd y swyddfa docynnau ar agor 2 awr cyn dechrau'r sioe ac yn cau 30 munud ar ôl dechrau'r perfformiad olaf.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

gwybodaeth am y lleoliad

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ganolfan gelfyddydol gyhoeddus fywiog, Conservatoire Cenedlaethol Cymru ar gyfer hyfforddi myfyrwyr i ddechrau proffesiynau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth a theatr.

Mae ein lleoliadau perfformio'n cynnwys neuadd acwstig ardderchog Dora Stoutzker a mannau stiwdio mwy cartrefol, pob un â lefelau amrywiol o hygyrchedd. Rydym yn ymroddedig i wella hygyrchedd yn yr holl leoliadau, ac rydym yn croesawu adborth.

Neuadd Dora Stoutzker

Mae Neuadd Dora Stoutzker yn hygyrch drwy'r prif gyntedd. Mae ganddi bedwar lle i gadeiriau olwyn ar y llawr gwaelod a dau yn y cylch (lefel 1) y gellir eu cyrraedd gan ddefnyddio grisiau neu lifft.

Mae toiledau ar y llawr gwaelod isaf, mynediad trwy lifft ger y swyddfa docynnau.

Theatr Richard Burton

Gellir cyrraedd theatr Richard Burton o'r prif gyntedd, ac mae chwe lle i gadeiriau olwyn – pedwar lle i gadeiriau olwyn ar y llawr gwaelod a dau yn y cylch (lefel 1) gan ddefnyddio grisiau neu lifft.

Mae'r toiledau agosaf ar y llawr gwaelod isaf, mynediad trwy lifft ger y swyddfa docynnau.

Stiwdio Seligman

Gellir cyrraedd Stiwdo Seligman mewn lifft ger y swyddfa docynnau. Mae'r toiledau agosaf ar y llawr gwaelod isaf, mynediad trwy lifft ger y swyddfa docynnau. Mae llefydd cadeiriau olwyn ar gais.

Stiwdio Simon Gibson

Gellir cyrraedd Stiwdo Simon Gibson mewn lifft ger y swyddfa docynnau. Mae'r toiledau agosaf ar y llawr gwaelod isaf, mynediad trwy lifft ger y swyddfa docynnau. Mae llefydd cadeiriau olwyn ar gais.

Rowe-Beddoe

Ar yr ail lawr, gellir ei gyrraedd mewn lifft yn Oriel Linbury. Mae'r toiledau agosaf ar y llawr cyntaf neu wrth ymyl Theatr Bute ar y llawr gwaelod.

Stiwdio 1

Ar yr ail lawr, gellir ei gyrraedd mewn lifft yn Oriel Linbury. Mae'r toiledau agosaf ar y llawr cyntaf neu wrth ymyl Theatr Bute ar y llawr gwaelod.

Theatr Bute

Ar y llawr gwaelod, ym mhen arall Oriel Linbury i'r prif gyntedd (bydd yn cymryd rhai munudau i gyrraedd y lleoliad o'r swyddfa docynnau – gadewch ddigon o amser i gasglu eich tocynnau).

Mae'r toiledau agosaf nesaf at ddrysau'r theatr (yn cynnwys cyfleusterau i gwsmeriaid anabl). Llefydd cadeiriau olwyn ar gais.

Stiwdio 2

Ar y llawr cyntaf, gellir ei gyrraedd mewn lifft ger y fynedfa ddeheuol (bydd yn cymryd rhai munudau i gyrraedd y lleoliad o'r swyddfa docynnau – gadewch ddigon o amser i gasglu eich tocynnau).

Llefydd cadeiriau olwyn ar gais. Mae'r toiledau agosaf ar y llawr gwaelod nesaf at Theatr Bute.

Stiwdio Caird

Ar y trydydd llawr, gellir ei gyrraedd mewn lifft neu i fyny’r grisiau ger y fynedfa ddeheuol (bydd yn cymryd rhai munudau i gyrraedd y lleoliad o'r swyddfa docynnau – gadewch ddigon o amser i gasglu eich tocynnau). Gall staff blaen tŷ CBCDC helpu i gyfeirio ymwelwyr.

Mae llefydd cadeiriau olwyn ar gais. Mae'r toiledau hygyrch agosaf ar yr ail lawr ger y lifft.

Oriel Weston

Yng Nghanolfan Anthony Hopkins, ar lawr gwaelod ein hadeilad ychwanegol ar y safle (bydd yn cymryd rhai munudau i gyrraedd y lleoliad o'r swyddfa docynnau – gadewch ddigon o amser i gasglu eich tocynnau).

Mae llefydd cadeiriau olwyn ar gais. Mae'r toiledau agosaf ar hyd y coridor o'r stiwdio.

gwybodaeth gadael mewn argyfwng

Ar ôl clywed y larwm, gadewch yr adeilad gan ddefnyddio'r allanfa agosaf sydd ar gael. Bydd ein Rheolwr ar Ddyletswydd yn cynorthwyo, ac yn defnyddio cadeiriau gwacáu lle bo raid. Mae'r rhain ar gael mewn llawer o leoliadau ar hyd a lled y safle. Rhaid i bawb fynd i'r man ymgynnull rhwng y prif adeilad a Chanolfan Anthony Hopkins.

cyfleusterau'r lleoliad

Cyntedd

Mae ein cyntedd yn edrych dros barc prydferth Bute ac mae'n gwbwl hygyrch ar y llawr gwaelod. Mae'r swyddfa docynnau, y caffi a'r bar, mynedfeydd Theatr Richard Burton a Neuadd Dora Stoutzker oll yn y cyntedd.

Oriel Linbury a mannau stiwdio

O'r cyntedd, gall cwsmeriaid hefyd gael mynediad i Oriel Linbury, ein horiel arddangos amlbwrpas. Mae mynediad hefyd i'n mannau stiwdio sy'n agos at y prif gyntedd ar lefel 1 a lefel 2. Mae'r rhain yn gwbl hygyrch mewn lifft.

Toiledau

Mae'r holl doiledau (gan gynnwys cyfleusterau i gwsmeriaid anabl) lawr y grisiau ac yn hygyrch o'r cyntedd mewn lifft neu i lawr y grisiau

Unrhyw wybodaeth arbennig am fynediad

Mae dolenni clyw ar gael ar gyfer perfformiadau sy'n digwydd yn Neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker a theatr Richard Burton. Mae'r rhain ar gael o'r swyddfa docynnau. Gofynnir bod cwsmeriaid yn talu blaendal o £5, a ad-delir ar ôl eu dychwelyd. Mae pob man perfformio'n hygyrch mewn lifft lle bo angen.

gwasanaethau

Mae dŵr ar gael ar gais i gŵn tywys. Mae ein llyfryn print bras a fersiwn sain ar gael drwy gysylltu â'r swyddfa docynnau.

cyrraedd yma: cludiant / parcio 

Ar droed

Wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd, mae'r coleg yn agos at sawl canolfan cludiant gyhoeddus, gan ei wneud yn hawdd ei gyrraedd ar droed. Dim ond 20 munud o gerdded o Orsaf Ganolog Caerdydd, 15 munud o Heol y Frenhines, Caerdydd a 5 munud o Orsaf Cathays.

Ar Gludiant Cyhoeddus

Gwasanaethir canol dinas Caerdydd gan rwydwaith cludiant cyhoeddus helaeth yn cynnwys prif linell a gwasanaethau rheilffordd rhwydwaith a gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol.

Rheilffyrdd

Mae'r orsaf reilffordd leol agosaf yn Cathays ar rwydwaith Llinellau'r Cymoedd, a Chaerdydd Canolog yw'r orsaf prif lein agosaf. Mae gwasanaeth bob hanner awr yn cysylltu Caerdydd â gorsaf Paddington Llundain mewn llai na dwy awr. Am ymholiadau am amserlen a thocynnau, ewch i wefan National Rail Enquiries neu ffoniwch +44 (0) 8457 484950.

Bws

Mae gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol (Bws Caerdydd 21, 23, 25 a 27) yn pasio drws ffrynt y coleg yn rheolaidd, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau ar rwydwaith Stagecoach a National Express. Mae bysiau'n gadael o'r brif derfynfa fysiau o flaen gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Ewch i wefan Bws Caerdydd neu ffoniwch +44 (0) 870 6082608 am ragor o fanylion.

Mewn Tacsi

Bydd tacsis o orsaf drenau Caerdydd Canolog yn costio rhyw £5 i £7. Mae cwmnïau tacsi amrywiol yn gweithredu, gan gynnwys:

Dragon Taxis - 029 2033 3333

Capital Cabs - 029 2077 7777

Premier Cars - 029 2055 5555

Cardiff Cabs - 029 2090 9090

Delta Taxis - 029 2020 2020

Ar Feic

Gellir cyrraedd y coleg ar feic hefyd. Mae llwybr beicio ar hyd Heol y Gogledd heibio campws y coleg ac yn cysylltu â Llwybr Taf, Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Taf.

Mewn Car

Traffordd yr M4, gan groesi Pont Hafren ger Bryste, yw'r prif ffordd gyswllt i Gaerdydd a De Cymru. Mae'r M4 yn cysylltu Caerdydd, Maes Awyr Heathrow a Llundain yn uniongyrchol, ac mae'n hawdd ei gyrraedd o rannau eraill o'r DU.

Parcio Ceir

Cyfyngir mannau parcio yn y coleg i ddeiliaid bathodynnau anabl yn unig. Mae'r rhain ym mynedfa flaen y prif adeilad ac nesaf at Ganolfan Anthony Hopkins. Nid oes modd cadw'r mannau hyn - y cyntaf i'r felin yw hi.

Mae meysydd parcio talu ac arddangos wrth ymyl y coleg ar y naill ochr a'r llall. Mae parcio ychwanegol ar gael ym mhob rhan o'r Ganolfan Ddinesig, gyferbyn â phrif fynedfa'r coleg ar yr ochr arall i Ffordd y Gogledd, a system talu ac arddangos sydd yno.



print page