Ffwrnes

Stryd y Parc Llanelli

SA15 3YE

Get in Touch

call: 0345 2263510
email: theatres@carmarthenshire.gov.uk
visit: www.theatrausirgar.co.uk

Opening Times

Swyddfa Docynnau’r Ffwrnes: Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn, 10am – 2pm.

Bydd oriau llinell ffôn y swyddfa docynnau: 10am – 3pm dydd Mawrth – dydd Sadwrn.

Mae'r swyddfa docynnau yn agor 1 awr cyn y perfformiad ar ddiwrnodau sioe.

View upcoming shows at Ffwrnes
Ffwrnes

gwybodaeth am y lleoliad

Mae'r Ffwrnes yn ganolfan berfformio a chynadleddau newydd fodern yn Llanelli gyda'r Prif Dŷ yn cynnwys 504 o seddi, gofo stiwdio gyda hyd at 100  seddi ac ystafelloedd cyfarfod llai eraill. Rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor gyfforddus a phleserus â phosibl, felly rhowch wybod i staff ein Swydfa Docynnau ymlaenllaw os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig.

gofod digwyddiadau

Mae'r brif fynedfa ar Stryd y Parc, sy'n rhannol ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae mynediad gwastad o'r stryd i'r Swyddfa Docynnau, Bar Caffi Cwtsh a'r toiledau ar y llawr isaf.

Mae Bar yr Oriel, Stiwdio Stepni, Crochan a'r toiledau ar y llawr cyntaf a gellir u cyrraedd trwy ddefnyddio'r grisiau neu'r lifft.

Mae seddi'r prif dy wedi'u rhannu ar ddwy lefel; y seddi isaf (sydd ar oledd a gellir eu cyrraedd o'r llawr isaf) a'r cylch (sydd ar oledd a gelir eu cyrraed drwy ddefnyddio'r grisiau neu'r lifft o'r llawr cyntaf). Gellir symud seddi'r theatr yn ôl ar gyfer digwyddiadau cabaret.

Mae seddi theatr y stiwdio'n hyblyg ac mae eu gosodiad yn amrywio'n ôl y cynhyrciad sydd ymlaen; bydd rhai seddi ar y llawr isaf bob amser gyda rhago o seddi ar y uned seddi hyblyg sydd ar oledd.

gwybodaeth i wagio'r adeilad mewn argyfwng

Os bydd yn rhiad gwagio'r adeilad mewn argyfwng, bydd staff blaen y tŷ'n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i adael, ac am y mannau ymgynnull a lloches agosaf.

cyfleusterau'r lleoliad

Mae toiledau hygyrch ar y llawr isaf a'r llaw cyntaf. Mae nifer o doiledau ac maent wedi'u lloli ar hyd a lled yr adeilad yn agos at bob prif ofod ac ystafell.

Mae gofod bychan ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau (Y Crochan) ac ystafell gyfarfod (Yr Ystafell Gastio) ar y llawr cyntaf. Mae mynediad hwylus i'r ddau ofod.

Mae lifft y tu ôl i'r llwyfan ac mae'r holl ystafelloedd gwisgo a'r cyfleusterau y tu ôl i'r llwyfan yn hygyrch.

Mae'r Ffwrnes Fach, canolfan fechan i fentrau cymdeithasol, wedi lleoli yn yr hen gapel Seion ger y Ffwnes, gyda 6 o swyddfeydd hunangynhliol modern ar y llawr isaf. Mae mynediad i'r Ffwrnes Fach trwy lifft-grisiau.

gwybodaeth am fynediad arbennig

Mae lle ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn y seddi isaf ac yn y seddi isaf ac yn y cylch yn y Prif Dŷ ac yn Stiwdio Stepni. Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.

Mae system cymorth clywed isgoch yn weithredol ym mhob rhan o'r adeilad.

gwybodaeth bellach

Mae croeso i gŵn tywys. Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu eich tocynnau a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r sedd fwyaf addas. Gellir darparu bowlenn dŵr ar gais.

gwasanathu

Mae'r llyfryn ar gael mewn print bras ar gais. E-bostiwch theatre@carmarthenshire.gov.uk

cyrraedd yma

Mae'r Ffwrnes wedi'i lleoli yn ardal Porth y Dwyrain o dref Llanelli ac mae o fewn pellter cerdded i faes parcio talu ac arddangos Porth y Dwyrain. Mae gorsaf fysiau'r dref o fewn cerdded ac mae gorsaf dacsis wedi'i lleoli ar Stryd y Parc y tu allan i'r theatr. Mae nifer cynfyngedig o fannau parcio hygyrch wrth gefn y theatr, gyda mynediad o'r A484/Stryd John.

print page