Galeri

Galeri
Doc Fictoria
Caernarfon
Gwynedd

LL55 1SQ

Get in Touch

call: 01286 685 222
email: post@galericaernarfon.com
visit: www.galericaernarfon.com

Opening Times

Swyddfa docynnau:

Dydd Llun i ddydd Gwener : 09:00 – 17:30
[tan 20:00 os oes digwyddiad tocyn]

Dydd Sadwrn i ddydd Sul : 10:00 – 16:00
[tan 20:00 os oes digwyddiad tocyn]

Gall amseroedd amrywio : Gwyliau Banc / amgylchiadau arbennig

Galeri

gwybodaeth am y lleoliad

Mae Galeri, wedi'i leoli ar Ddoc Fictoria yng Nghaernarfon, yn ganolfan fenter greadigol gwerth £7.5m a agorwyd yn 2005 gan y noddwr Bryn Terfel. Mae'r adeilad yn cydymffurfio â DGSA

Mynedfeydd

Mae dwy fynedfa i'r adeilad:

Mae'r brif fynedfa [swyddfa docynnau] ger y maes parcio - y gellir ei chyrraedd o Ffordd Balaclafa. Mae hon yn fynedfa wastad o'r maes parcio i'r adeilad, trwy ddrysau awtomatig.

Mynedfa ochr doc [glannau]. Gellir cyrraedd hon o'r un lefel â Doc Fictoria. Mae'r drws ger y caffi-bar.

Gwybodaeth Gadael mewn Argyfwng

Os bydd y larwm tân yn canu'n barhaus, mae'n gyfarwyddyd i adael yr adeilad.

Wrth glywed y larwm, dylech adael drwy'r allanfa dân agosaf. Dylai defnyddwyr â phroblemau symudedd fynd i'r Lloches Dân agosaf.

Noder nad yw'r fynedfa flaen yn ddihangfa dân ddynodedig.

Dylech fynd i'r man ymgynnull tân, y maes parcio blaen.

Symudwch o'r adeilad oherwydd bod torfeydd yn agos at yr allanfa'n arafu gwaith y gwasanaethau brys.

Arhoswch yn y man ymgynnull nes bod rhywun yn rhoi gwybod i chi y cewch ddychwelyd i'r Galeri. 

Cyfleusterau

Mae'r Galeri'n cydymffurfio â DDA, ac mae ar bedwar llawr [lifft ar gael]

Llawr 0 [Llawr gwaelod] - mynediad gwastad o'r stryd/maes parcio
Swyddfa Docynnau [cownter isel]
Toiledau [toiled hygyrch x1]
Caffi a Bar [amrywiaeth o opsiynau seddi ar gael - mainc / cadair / soffa] a hyblyg i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn / cŵn tywys ac mae cownter isel
Lle celf
Theatr [drysau 1 a 2 - ar gyfer seddau yn rhesi 1 - 7. Rhesi 1 a 2 yn wastad]
Ystafell wisgo'r llawr gwaelod [gyda thoiled a chawod hygyrch]
Stiwdio 1 [ystafell gyfarfod/gynadledda - lle perfformio - lle ymarfer]

Llawr 1 [llawr cyntaf] - 20 gris neu lifft
Theatr [drysau 3 a 4 - ar gyfer seddi yn rhesi 8 i 14] ac ystafelloedd gwisgo/ystafell werdd
Ystafell reoli [lifft ar gael ar gyfer y lle hwn]
Toiledau [toiledau hygyrch x2]
Unedau gwaith [x9]
Ystafell cyfarfod C1
Llochesi tân [X2]

Llawr 2 [ail lawr]
Stiwdio 2 [ystafell gyfarfod/gynadledda - lle perfformio - lle ymarfer]
Ardal mezzanine
Lloches dân [X3]

Llawr 3 [trydydd llawr]
Theatr [drysau 5 a 6 - seddi balconi: rhesi 15 - 21. Rhes 15 yn wastad]
Ystafelloedd ymarfer gwrthsain/addysgu [X3]
Unedau gwaith [x9]
Toiledau [toiledau hygyrch x2]
Llochesi tân [X2]
Ystafell gyfarfod C3

unrhyw wybodaeth arbennig am fynediad:

Lifft [defnydd cyhoeddus] a lifft [os oes angen un ar dechnegydd mewn cadair olwyn - i ystafell reoli]

Grisiau

- o lawr 0 i 1 : 18 gris
- o lawr 1 i 2 : 9 gris
- o lawr 2 i 3 : 10 gris

Seddi i gadeiriau olwyn:

- Digwyddiadau theatr : o leiaf 12 sedd [uchaf posib yw 18]
- Digwyddiadau 'sefyll' theatr : dim problem capasiti
- Digwyddiadau stiwdio: yn dibynnu ar 'gynllun' / digwyddiad: rhwng 5 a 10 yn bosib
- Ystafelloedd cyfarfod
- C1 a C3: uchafswm 5 yr ystafell [arddull ystafell fwrdd]
- Stiwdio 2 : uchafswm o 40 [gan ddibynnu ar y cynllun]

Gwybodaeth bellach

Gellir benthyg cadeiriau olwyn [mae dwy ar gael gennym]

Croesewir cŵn tywys ym mhob ardal

Dolen sain ar gael ym mhob ardal gyhoeddus: a gellir benthyg mwyhadur sain os bydd angen

Gwasanaethau

Gellir gwneud cais am lyfryn print bras drwy:

E-bost : post@galericaernarfon.com
Ffôn : 01286 685 222
Ar-lein : o ffurflen gyswllt yr hafan

Gellir lawrlwytho llyfryn ar-lein [a'i weld fel PDF mewn maint o’ch dewis]

MP3 o restrau'r llyfryn ar gael ar CD [trwy Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru] ac ar-lein

Gwasanaeth diodydd : gellir trefnu ar y noson gyda'r rheolwr blaen tŷ [drwy gysylltu'n uniongyrchol neu drwy stiward]

Mae croeso i gŵn tywys - ond nid ydym yn cynnig gwasanaeth gofalu am gŵn yn anffodus

Cyrraedd yma: cludiant / parcio 

Cod Post : LL55 1SQ

Gorsaf drên agosaf: Bangor
Meysydd awyr agosaf: Ynys Môn [Hedfan o Gaerdydd] / Lerpwl (John Lennon) / Manceinion
Porthladd agosaf: Caergybi
Cludiant cyhoeddus: gwasanaethau bws rheolaidd i Gaernarfon o Fangor, Pwllheli a Phorthmadog.

Teithio o'r gorllewin (Porthmadog/Pwllheli)
Wrth i chi fynd at Gaernarfon ar yr A487, parhewch ar y ffordd heibio Tesco am hanner milltir. Byddwch yn cyrraedd cylchfan mawr. Cymerwch yr ail allanfa (rhwng yr Hwylfan a Morrisons) tuag at y Fenai. Ar ôl 100m, trowch i'r chwith wrth y gylchfan mini a byddwch yn gweld Galeri 200m o'ch blaen ar y dde.

Teithio o'r dwyrain (Bangor)
Pan gyrhaeddwch y cylchfan cyntaf ger Morrisons, ewch yn syth ymlaen, ond yna cymerwch y lôn dde. Pan fyddwch yn cyrraedd yr ail gylchfan, cymerwch y pedwerydd allanfa (rhwng yr Hwylfan a Morrisons) tuag at y Fenai. Trowch i'r chwith wrth y gylchfan mini a byddwch yn gweld Galeri 200m o'ch blaen ar y dde.

print page