Pontio

Prifysgol Bangor
Ffordd Deiniol
Bangor
Gwynedd

LL57 2TQ

Get in Touch

call: 01248 38 28 28
email: info@pontio.co.uk
visit: www.pontio.co.uk

Opening Times

Oriau agor a sut i archebu tocynnau

Oriau agor: Llun - Sadwrn: 8:30am - 11:00pm, Sul 12:00pm - 8:00pm

Llinellau ffon yn agord: Llun i Sadwrn 10:00am - 8:30pm, Sul 10:00am - 6:00pm

Bwyty Gorad:Llun i Sadwrn 8:30am - archebion bwyd olaf 8pm Sul 12:00pm - archebion bwyd olaf 6pm

Caffi Cegin Llun i Sadwrn 8:30am - 6:00pm, wedi cau ar y Sul

Ciosg Copa Llun - Gwener 11am - 8pm (adegau tymor yn unig)

Bar Ffynnon Llun i Sadwrn 11am - 9pm (yn agored tan 11:00pm pan fydd perfformiadau yda'r nos) Sul 12:00pm - 6:00pm

Ar y ffon

Lle nodir hynny, gellwch archebu tocynnau i ddigwyddiadau Pontio ar y ffon ar: 01248 38 28 28. Ceir gwasanaeth archebu cwbl ddwyieithog ary ffon, Llun - Sadwrn:10am - 8:30pm, Sul: 12pm - 6pm.

Pontio

gwybodaeth am yr adeilad

Canolfan i'r celfyddydau ac arloesi ym Mngor ydi Pontio, a agorodd yn 2015. O'r adeilad sydd ar chwe lefel ceir golygfeydd godidog o'r ddinas ac ar hyd yr arfordir, ac mae'n gatref i theatr ganolig ei maint sydd wedi'i henwi ar ol Bryn Terfel, y canwr bas-bariton byd enwog. Yno hefyd fe geir Theatr Stiwdio, yn dal hyd at 120 o bobl, a sinema ddigidol 200 sedd. Mae darn o gelf cyhoeddus, sef Caban, gan yr artist rhyngwladol, Joep Van Lieshout, wedi ei osod y tu allan i'r adeilad fel rhan o raglen celf gyhoeddus Pontio.

Ar lefelau uchaf yr adeilad ceir Canolfan Arloesi gyda'r offer diweddaraf, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau i fyfyrwyr, yn cynnwys cartref newydd i Undeb y Myfyrwyr a nifer o fannau addysgu a dysgu.

Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig dewis eang o fwyd a diod. Ar y llawr isaf ceir bar Ffynnon, ac o fwyty Gorad ceir golygfeydd trawiadol dros ddinas Bangor. Ar y llawr Arloesi mae caffi Cegin yn darparu diodydd a byrbrydau ac ar y llawr uchaf gellir cipio rhywbeth sydyn o giosg Copa.

o amgylch pontio

Lefel 0 - y prif gyntedd. Yma ceir y Dderbynfa, y Swyddfa Docynnau a Bar y Theatr yn ogystal a'r drysau i Seddi Llawr Theatr Bryn Terfel a Drws A y Sinema 200 sedd. Hefyd ar y lefel hon ceir yr ystafel gotiau, y man gwefru sgwteri symudedd a man cadw coetsys babanod.

Lefel 1 - Yma ceir Drws B i'r Sinema a Drysau 3 a 4 i Falconi 1 Theatr Bryn Terfel. Dyma hefyd lle ceir ein hystafell Newid Lleoedd.

Lefel 2 - Dyma lle cewch hyd i fwyty Gorad. Byddwch hefyd yn gallu mwynhau golygfeydd draw tuag at yr Eglwys Gadeiriol. Yma hefyd ceir mynediad i Ddrysau 5 a 6 Balconi 2 Theatr Bryn Terfel, y Theatr Stiwdio, y Bocs Gwyn a Darlithfa 2 Cemlyn Jones. Mae drysau gwydr yn arwain i'r man perfformio awyr agored ac i'r darn celf gyhoeddus, Caban.

Lefel 3 - Dyma lle cewch hyd fan Arloesi Pontio. Gyda chanolbwyntio ar weithio ar draws disgyblaethau a phrototeipio cyflym, mae Co-Lab, Media Lab, Hackspace a Fablab yn gartref i dechnolegau blaengar. Hefyd mae siop goffi Cegin ar y lefel hon.

Lefel 4 - Cartref newydd Undeb Myfyrwyr Bangor gyda chyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd a swyddfeydd.

Lefel 5 - Ar lefel uchaf Pontio ceir darlithfa fawr gyda lle i 450. Rhwng y ddau le dysgu cymdeithasol ceir ciosg bwyd sy'n gwerthu diodydd a bybrydau poeth ac oer.

Ar Lefel 5, gallwch gerdded allan yn syth i Allt Penrallt, dim ond tafliad carreg o Brif Adeilad y Brifysgol.

Lifft - Mae lifft ar bob lefel o'r adeilad. Gall y lifftiau gario rhwng 8 a 21 o bobl ac meant yn ddigon mawr i gario cadair olwyn neu goets babi. Mae botymau hwylus ar yr holl lifftiau.

Grisiau - Mae 6 lefel i'r adeilad gyda 149 o risiau i gyd:

Lefel 0 - 1 = Grisiau'r Bwa Coffa x 20 o risiau i Ffynnon = 19

Lefel 2 - 3 = 30

Lefel 3 - 4 = 24

Lefel 4 - 5 = 35

Lefel 5 - 6 = 18

Cyfanswm = 149 Prif Risiau 148 Grisiau Ffynnon

Mae canllawiau ar yr holl risiau yn yr adeilad.

Rampiau - Y tu mewn i'r adeilad ceir nifer o rampiau parhaol i hwyluso mynediad i bobl gyda chadeiriau olwyn a choetsis babanod. Hefyd ceir ramp y tu allan o'r man gollwng teithwyr i fyny i'r brif fynedfa.

Cyfleusterau a Gwasanaethau

toiledau

Mae toiledau hygyrch ar gael ar lefelau 0, 1, 3 a 5 yr adeilad ac mae arwyddion yn dangos lle maent.

cyfleusterau newid clytiau babis

Mae cyfleusterau newid babis ar gael yn y toiledau ar lefel 0 (merched), 1 (merched a dynion) a 5 (dynion).

ystafell gotiau

Mae ein hystafell gotiau wrth ochr y Swyddfa Docynnau. Yma gellwch adael eich cot cyn perfformiad. Ni chodir tal am hyn ond croesewir rhoddion at elusen benodedig y brifysgol, Ty Gobaith / Hope House. Mae seddau Booster ac Amddiffynwyr Clustiau hefyd ar gael yma.

cyfleusterau cynorthwyo clywed

Mae System Dolen Glywed wedi'i gosod ar bob lefel yn ein Mannau Larwm a Lloches.

isdeitlau a disgrifiad sain

Rydym yn falch o gynnig nifer o ddangosiadau ffilm gydag isdeitkau yn Saesneg bob mis i gwsmeriaid sy'n drwm eu clyw. Cadwch olwg am 'Isdeitlau' yn y rhestrau.

Mae disgrifiad sain isgoch ar gael ar bob teitl a nodir ag 'AD' yn y prif grynodeb yn y llyfryn ffilmiau. Cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau am wybodaeth bellach 01248 38 28 28.

cadeiriau olwyn

Mae mannau penedol i gadeiriau olwyn ar gael yn Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, y Sinema a'r ystafelloedd darlithio. Gofynnwch am gael defnyddio'r mannau hyn wrth archebu eich tocynnau ar y ffon; gellir archebu seddau ar-lein hefyd yn Theatr Bryn Terfel ac yn y Sinema.

cwn cymorth

Mae croeso i gwn cymorth yn Pontio a chedwir lle gwag wrth ochr eich sedd ar gyfer y ci. Gofynnwch am gael defnyddio'r mannau hyn wrth archebu eich tocynnau.

angen cymorth pellach?

Rydym eisiau i'n hymwelwyr fwynhau eu profiadau yn Pontio ac rydym bob amser yn fodlon gwella ein gwasanaethau. Os byddwch angen unrhyw gymorth pellach, neu'n dymuno rhoi unrhyw sylwadau i ni, mae croeso i chi gysylltu a ni.

 

cyrraedd yma

Tren - O orsaf drenau Bangor, ewch allan i'r ffordd (Ffordd Caergybi). Croeswch y ffordd honno yn y groesfan y tu allan i'r orsaf ac ewch yn syth yn eich blaen ar hyd Ffordd Deiniol / A5 am oddeutu hanner milltir. Bydd Pomtio ar y chwith.

Ar Fws - Gorsaf Fysus Cloc Bangor yw'r arhosfa fysus agosaf, rhyw 5 munud o daith gerdded o Pontio.

Mewn Car - Mae Bangor yn agos at Wibffordd yr A55, gyda mynediad hwylus o Gyffordd 11, allanfa'r A5 i Fongor / Betws-y-Coed - 3.5 milltir (o gyfeiriad Llandudno, Caer, Lerpwl, a Manceinion). O Gyffordd 9, dilynwch yr arwydd Bangor / Caernarfon ar yr A487 - 3.4 milltir (o gyfeiriad Ynys Mon). O'r de, dilynwch yr A487 ag arwyddion i Gaernarfon / Bangor. Mae gan Pontio 11 o leoedd parcio i ddeiliaid bathodyn glad ac mae digon o feysydd parcio cyhoeddus ar gael wrth ymyl.

Gydag Awyren - John Lennon Lerpwl, Maes Awyr Mona (Ynys Mon) a Maes Awyr Manceinion yw'r meysydd awyr rhyngwladol agosaf.

Ar y Mor - Caergybi, ar Ynys Mon, yw'r porthladd agosaf, tua 25 milltir o Fongor ar hyd Gwibffordd yr A55. Mae gwasanaethau fferi ar gael gan Irish Ferries a Stena Line, yn teithio rhwng Porthladd Dulyn a Chaergybi.

Partion Bws - Mae lle pwrpasol i fysiau ollwng teithwyr ar Ffordd Deiniol o flaen yr adeilad. Os oes modd, a fyddech cystal a gofyn am gael defnyddio'r man gollwg drwy gysylltu a Rheolwr Blaen Ty a Chyfleusterau Pontio ar 01248 383058.

leithoedd

Mae staff a stiwardiaid Pontio'n siarad nifer o ieithoedd. Bydd holl staff a stiwardiaid sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn yn dynodi hynny.

cymorth

Rydym bob amser yn fodlon eich helpu. Gofynnwch i unrhyw aelod o'r tim os byddwch angen unrhyw gymorth yn ystod eich ymweliad.

 

 

print page