Sefydliad y glowyr coed duon

Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Stryd Fawr
Coed Duon

NP12 1BB

Get in Touch

call: 01495 227206
email: bmi@caerphilly.gov.uk
visit: www.blackwoodminersinstitute.com

Opening Times

Mae'r swyddfa docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:00 i 19:45 a 9:30 i 13:00 ar foreau Sadwrn (yn ogystal ag awr cyn pob perfformiad

Sefydliad y glowyr coed duon

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yng nghanol tref Coed Duon, a hwn yw'r unig leoliad proffesiynol yn y fwrdeistref sirol. Ein cenhadaeth yw bod y theatr blaenllaw yng Nghymoedd y De Ddwyrain, gan gyflwyno celfyddydau ac adloniant proffesiynol a chymunedol o'r ansawdd uchaf, gan greu profiadau diwylliannol cyfoethog i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr.

Yn flaenorol, adeiladwyd Neuadd Les y Glowyr ym 1925 gyda chyfraniadau glowyr; cwblhawyd gwaith adnewyddu gwerth £1.6m yn 2014, a oedd yn cynnwys llawer o welliannau mynediad.  

Rhowch wybod i ni am eich gofynion mynediad a byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i'w bodloni.

Lleoedd

Cynhelir y rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn y theatr, ac mae toiledau ger y theatr, gan gynnwys toiled hygyrch. Mae seddau rhif 15 i 22 ar yr un ochr â'r toiledau. (Rhowch wybod i staff ein swyddfa docynnau os bydd angen seddau ger yr eil neu ger y toiledau arnoch, a gallwn roi cyngor). 

Rydym hefyd yn cynnal nifer fach o ddigwyddiadau yn ein Bar Isaf. Mae toiledau yn agos at y Bar Isaf.

Gwybodaeth Gadael Mewn Argyfwng 

Peidiwch â defnyddio'r lifft os bydd tân.

Os bydd rhaid gadael, gofynnir i unrhyw ymwelwyr â phroblemau symudedd aros gyda thywysydd, nes i'r holl ymwelwyr eraill adael. Ar ôl i'r holl ywelwyr nad ydynt yn anabl adael, gall cwsmeriaid gyda chyfyngiadau symudedd adael gyda chymorth y tywysydd.

O'r theatr, yr unig allanfa wastad yw drwy'r drysau tân i'r maes parcio. Os yw'r allanfa hon wedi'i rhwystro, gofynnir i unrhyw ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu ymwelwyr â phroblemau symudedd aros yn yr awditoriwm ger y llwyfan ac aros am y gwasanaeth tân.

Yn y Bar Isaf, mae pob llwybr allan o'r adeilad yn fynediad gwastad ac yn addas i gwsmeriaid â chyfyngiadau symudedd. 

Bydd tywyswyr hefyd yn helpu cwsmeriaid â nam ar eu golwg neu glyw pan fydd angen.

 


cyfleusterau'r lleoliad

Mae'r swyddfa docynnau, y Bar Isaf a’r Stiwdio Ddawns i gyd ar y llawr gwaelod, gyda mynediad gwastad, ac mae lifft i'r llawr cyntaf.

Mae'r theatr, y Bar Uchaf, Markham Suite (ystafell gyfarfod), yr Oriel a’r Lolfa ar y llawr cyntaf, gyda mynediad gwastad. 

Mae toiledau ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf. Mae toiled hygyrch a chyfleusterau newid babi ar gael ar y llawr cyntaf. 

Mae Ystafell Oakdale (ystafell gyfarfod) a swyddfa'r staff ar yr ail lawr; rhaid defnyddio grisiau i gyrraedd y rhain (dim mynediad lifft).

Gwybodaeth am Fynediad Arbennig

Mae lifft a grisiau rhwng y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.

Dim ond grisiau sydd rhwng y llawr cyntaf a'r ail. 

Mae gennym ddolen glyw is-goch yn y swyddfa docynnau ac yn y theatr. Mae gennym glustffonau ar gael i'w defnyddio gyda system ddolen y theatr. Gofynnwch i'n staff blaen tŷ os oes angen un arnoch. 

Mae rhes HH wedi'i neilltuo i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac ymwelwyr ag anghenion mynediad ychwanegol. Ni ellir archebu rhes HH ar-lein ar hyn o bryd - rhowch wybod i ni (dros y ffôn, wyneb yn wyneb, neu drwy e-bost) os oes gennych anghenion mynediad neu os oes arnoch angen sedd yn HH.

Gellir darparu seddi ar gyfer digwyddiadau sefyll yn unig. Rhowch wybod i ni os bydd angen sedd arnoch.

rhagor o wybodaeth

Mae croeso i gŵn cymorth.

Mae gennym arwyddion Braille drwy'r adeilad.  

Gwasanaethau

Gellir trefnu archebion egwyl ymlaen llaw a gallwn ddod â'ch archeb atoch yn y theatr.

Byddwn yn rhoi dŵr i gŵn cymorth, rhowch wybod i'n staff blaen tŷ os yw hyn yn rhywbeth y bydd ei angen arnoch.  

Mae'r llyfryn ar gael mewn print bras neu ar ffurf electronig ar gais - e-bostiwch arthuk1@caerphilly.gov.uk i ofyn am un.

Cyrraedd Yma: Cludiant / Parcio 

Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yng nghanol tref Coed Duon, gyda digon o leoedd parcio cyhoeddus 2 funud o gerdded i ffwrdd.

Nid oes gennym faes parcio cyhoeddus pwrpasol, ond mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd parcio i bobl anabl, y gall deiliaid bathodynnau glas eu harchebu ymlaen llaw drwy ffonio'r swyddfa docynnau ar 01495 227206.


print page