Rydym yn pryderu am sefydliadau allanol sy'n llogi ein lleoliad, er enghraifft cwmnïau amatur neu gynhyrchwyr na fyddant am anrhydeddu cynnig y tocyn.

Rydym yn ymwybodol bod rhai pryderon am gynhyrchwyr a chwmnïau amatur nad ydynt efallai am gynnig tocynnau am ddim, ac felly nad ydynt yn dymuno anrhydeddu cynnig Hynt, gan orfodi'r lleoliad i sybsideiddio'r perfformiad neu’r digwyddiad. Hoffem weithio gyda chi i drafod y materion hyn gyda'r cwmnïau sy'n ymweld. Teimlwn bod creu cynllun cenedlaethol yn gwneud datganiad cryf am yr angen i wneud addasiadau rhesymol a gosod safon ar gyfer lleoliadau yng Nghymru. Gwyddwn na fydd y sgwrs yn hawdd a bod risg ynghlwm i theatrau a chanolfannau celf. Fodd bynnag, byddem yn dadlau bod dyletswydd ar y cyrff allanol hyn o dan y Ddeddf Gydraddoldeb ac y dylem fod yn gweithio gyda nhw i ddangos y cyfleoedd a ddaw o gyflwyno eu gwaith yn ehangach.

Rhowch wybod i ni os oes gennych heriau gan gynhyrchwyr allanol fel y gallwn helpu a chefnogi gyda thrafodaethau.

Mae gennym gerdyn CEA eisoes - allwn ni ei gadw?

Mae gwahanol feini prawf cymhwyster i gynllun Hynt a cherdyn CEA. Byddai'n well gennym pe bai lleoliadau'n cofrestru ac yn gweithredu un cynllun er mwyn osgoi dryswch i gwsmeriaid. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw hyn yn bosibl i bob lleoliad, felly rydym yn hapus i leoliadau weithredu dwy system gyda'i gilydd. Mae hyn yn golygu derbyn cardiau CEA a Hynt ar gyfer dangosiadau sinema a derbyn cardiau Hynt yn unig ar gyfer perfformiadau byw.

Rydym wedi siarad â'r CEA ac maent yn hapus i weithio mewn partneriaeth gyda ni i ddatblygu negeseuon cyfathrebu allweddol sy'n gyson ynghylch defnyddio cynllun cerdyn CEA a pham y gall rhai theatrau a chanolfannau celfyddydol sydd hefyd yn sgrinio ffilmiau fod yn aelodau o Hynt yn lle hynny.

I ni, cysondeb sy'n bwysig, felly byddem yn gofyn i bob lleoliad sy'n gweithredu'r ddwy system sicrhau eu bod wedi ystyried eu cyfathrebu â chwsmeriaid yn ofalus er mwyn sicrhau eglurder y system ddeuol. 

Beth sy'n digwydd os bydd gennym gwsmer nad yw'n gymwys yn awtomatig am docyn am ddim ond sydd â phroblemau symudedd?

Mae Hynt yn seiliedig ar lefel y gofal angenrheidiol i gwsmeriaid allu mynychu perfformiad, gan roi blaenoriaeth i'r cwsmeriaid hynny sydd â'r anghenion mwyaf. Mae ein proses gyflafareddu ar gael i'r unigolion hynny nad ydynt yn bodloni'r meini prawf, ond sy'n dymuno gwneud cais am gerdyn Hynt.

Dylai hyfforddiant hefyd fod wedi helpu lleoliadau i ddeall sut y gallant gefnogi cwsmeriaid â gofynion mynediad penodol.

Roedd gennym ein cynllun mynediad ein hunain o'r blaen - sut gallwn esbonio'r newid mewn polisi?

Dangosodd adborth gan gwsmeriaid a theatrau a chanolfannau celf bod diffyg cysondeb ymhlith y cynlluniau hyn a bod yr angen i wneud cais am bob cynllun yn unigol yn rhwystr i gwsmeriaid. Datrys hyn yw prif nod Hynt.

Dyluniwyd Hynt i ddarparu cysondeb a rhwyddineb defnydd. Mae Hynt yn blaenoriaethu'r cwsmeriaid hynny sydd â'r anghenion mwyaf, y rhai sydd ag angen cymorth ychwanegol i fynd i'r theatr arnynt. Mae hefyd yn darparu proses ymgeisio ganolog unigol, felly does ond rhaid i gwsmeriaid wneud un cais yn hytrach na llu o systemau gwahanol. Mae hefyd yn golygu y gall cwsmeriaid fynd i unrhyw theatr sy'n rhan o Hynt yn hytrach nag un theatr yn unig.

Rydym am sicrhau bod dyraniad y tocynnau yn deg a chyfiawn, gan ganiatáu i'r rhai sydd â gwir angen am ofal gael eu blaenoriaethu. Mae Hynt yn sicrhau nad yw'r rhai sydd ag angen cefnogaeth a chymorth gofalwr neu gynorthwyydd personol arnynt yn wynebu rhwystr ariannol o brynu tocyn ychwanegol er mwyn mynychu perfformiadau.

Rydym yn cydnabod y gallai hyn olygu na fydd rhai cwsmeriaid - a oedd â hawl i sedd am ddim neu bris gostyngol o dan gynllun blaenorol - bellach yn gymwys. 

Beth ddylai staff y swyddfa docynnau wneud os nad yw cwsmer wedi ymuno â'r cynllun eto ond am archebu tocynnau ar y diwrnod?

O dan delerau Hynt, gall theatrau a chanolfannau celf unigol, yn ôl disgresiwn y rheolwr, ganiatáu un tocyn am ddim i gwsmer sy'n dymuno prynu tocyn ar yr un diwrnod ar yr amod bod y cwsmer yn cofrestru ei enw a'i gyfeiriad â'r theatr. Cynnig unwaith yn unig yw hwn, ac ni ellir ei ailadrodd. Unwaith y bydd cwsmer wedi cofrestru gyda'r theatr bydd disgwyl iddo/i wneud cais i Hynt er mwyn cael tocyn i ofalwr neu gynorthwyydd personol, yn rhad ac am ddim, ar gyfer unrhyw berfformiad yn y dyfodol. 

A fydd rhaid i staff ein swyddfa docynnau storio pentwr o ffurflenni cais papur i gwsmeriaid heb fynediad i'r rhyngrwyd?

Mae ymchwil wedi dangos i ni fod y gymuned anabl wedi croesawu technoleg, a bod y rhai heb gyfleusterau yn y cartref yn gallu cael mynediad i'r rhyngrwyd a chyfarpar cyfrifiadurol gyda chymorth mewn llyfrgelloedd. Mae ymchwil o gynlluniau tebyg yn dangos y gwneir 85% o geisiadau yn ddigidol. Gellir gwneud ceisiadau trwy e-bost neu drwy'r post. Gellir argraffu ein ffurflen gais ar-lein (dolen) fel y gall staff y swyddfa docynnau argraffu ffurflenni yn ôl y galw.

All cwsmer archebu tocynnau i ffrind neu berthynas, hyd yn oed os nad yw’n ofalwr swyddogol arno?

Gallant. Mae hawl gan aelodau'r cynllun i gael tocyn am ddim i ofalwr neu gynorthwyydd personol person anabl, pwy bynnag y bo. Gwyddwn y darperir gofal mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol. Nid oes rhaid i'r cwsmer anabl enwi un gofalwr unigol. Bydd rhaid i'r person sy'n archebu tocynnau nodi'r cyfeirnod unigryw wrth archebu a bydd rhaid i ddeiliad y cerdyn ddod â'r cerdyn i gasglu'r tocynnau. Mae'r cerdyn Hynt yn gerdyn adnabod â llun, ac er y gall unrhyw un archebu, dylai'r tocynnau ond gael eu cyflwyno i ddeiliad y cerdyn. Mae ein telerau ac amodau yn ei gwneud yn glir na ellir trosglwyddo'r tocynnau.

All grwpiau cymdeithasol archebu tocynnau am ddim i ofalwyr drwy Hynt?

Yn gyffredinol, bydd rhaid i bob person anabl yn y gr?p fod â cherdyn Hynt eu hun er mwyn gallu hawlio tocyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr. Gellir trin archebion gr?p drwy sefydliadau megis ysgolion anghenion addysgol arbennig neu gartrefi gofal yn ôl disgresiwn rheolwr eich lleoliad gan ein bod yn cydnabod bod gennych berthynas uniongyrchol â sefydliadau o'r fath. 

Oes rhaid i ofalwyr a chynorthwywyr personol fod dros 16 oed? Beth am ddeiliaid cardiau Hynt, oes rhaid iddynt fod yn oedolion hefyd?

Na, mae Hynt yn cydnabod bod llawer o ofalwyr ifanc a byddwn ond yn ei wneud yn ofynnol bod y cynorthwyydd personol neu ofalwr yn berson cyfrifol sy'n gallu darparu'r gofal llawn sy'n angenrheidiol i'r cwsmer yn ystod ei ymweliad. Er mwyn cydraddoldeb, nid oes terfyn oedran i ymgeiswyr cerdyn Hynt.

Rydym eisoes yn brysur, heb amser i ddiweddaru gwefan arall - sut fyddwch yn sicrhau bod gwefan Hynt yn gyfredol? 

Gwyddwn bod rhaid i'n gwefan fod hyd yn gyfredol er mwyn iddi fod yn berthnasol ac yn werth chweil. Oherwydd hyn, lle bo'n bosib, rydym yn defnyddio datrysiadau technolegol i lwytho gwybodaeth yn awtomatig o leoliadau sy'n cymryd rhan. Fel hyn, gallwn ddiweddaru Hynt.co.uk yn barhaus heb roi baich gweinyddol ychwanegol ar y theatrau sy'n cymryd rhan.

Gwyddwn na fydd hyn yn bosib i'n holl aelodau. Gallwch hefyd lwytho eich rhestrau trwy ein dangosfwrdd yma [dolen] a gallwn roi cymorth i chi wneud hyn trwy ein Gweinyddwr Prosiectau megan@creucymru.com

Nid oes gennym y gallu i ateb yr holl gwestiynau am Hynt. Oes yna rywle lle gallai staff ein Swyddfa Docynnau gyfeirio cwsmeriaid iddo am help?

Mae prif ardal gyhoeddus y wefan hon yn cynnwys dogfen gyfarwyddyd cwestiynau cyffredin yn canolbwyntio ar y cwsmer sy'n amlinellu'r broses ymgeisio ac yn rhoi cymorth i lenwi'r ffurflen gais. Byddwn yn sicrhau bod y ddogfen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i gwestiynau godi neu os oes rhaid i ragor o wybodaeth fod ar gael er mwyn i ni wella ein gwasanaeth yn barhaus. Bydd hefyd rhif ffôn pwrpasol a minicom i'r Card Network gyda staff hyfforddedig ar gael ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r broses ymgeisio.

Pa effaith allai Hynt ei gael ar Ddatblygu Cynulleidfa?

Bydd y wefan yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth ar gyfer theatrau a chanolfannau celf i'n helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu cynulleidfa a meysydd lle gallwn wella ein gwasanaethau cwsmeriaid a chyfathrebu. Bydd lleoliadau sy'n cymryd rhan hefyd yn cael mynediad i wefan fanwl o ddadansoddi ac ystadegau: Yn ogystal â monitro nifer yr ymwelwyr i'w tudalennau lleoliad a rhestrau unigol, y gellir eu diweddaru â llaw a thrwy RSS penodol, byddant yn gallu gweld am faint o amser bydd defnyddwyr yn pori'r wefan, pa dermau chwilio sy'n creu traffig, a nodi gwefannau eraill sy'n cysylltu i dudalen lleoliad. Bydd yr holl wybodaeth hon yn ein helpu i weithio gyda theatrau a chanolfannau celf i ddeall cynulleidfaoedd yn well a pharhau i ddatblygu arfer gorau wrth gyfathrebu â chwsmeriaid. Bydd hefyd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer gwaith datblygu cynulleidfa a dargedir yn y dyfodol.  

Rydym yn poeni am ddiogelu data os bydd rhaid i ni rannu gwybodaeth am gwsmeriaid. A allwch dawelu ein meddyliau?

Dyluniwyd Hynt gyda chydraddoldeb a pharch yn ganolbwynt, ac mae diogelu data yn bwysig iawn i ethos a chyflwyno'r cynllun.

Bydd rhaid gwsmeriaid presennol sydd eisoes yn rhan o gynlluniau drosglwyddo i Hynt lle bo hynny'n briodol. Yn enw eglurder a diogelu data, bydd rhaid iddynt gytuno ag unrhyw newidiadau. Rydym wedi creu llythyr safonol i'r lleoliadau i esbonio'r newidiadau i gwsmeriaid. Fel aelod lleoliad Hynt gallwch ddefnyddio’r llythyr hwn.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, ac yn nhelerau ac amodau'r cynllun, bydd gofyn i gwsmeriaid gytuno i rannu eu gwybodaeth ar draws y rhwydwaith. Gofynnir cyfres o gwestiynau i gwsmeriaid hefyd a fydd yn eu galluogi i nodi dewisiadau y byddent am eu rhannu.

Bydd y Card Network yn gyfrifol am brosesu'r data a sicrhau bod amddiffyniadau yn eu lle. Yr unig ddata y byddwn yn ei gadw yw gwybodaeth y mae cwsmeriaid yn barod i'w rhannu. Caiff holl gopïau dogfennau eu dinistrio ac ni fydd unrhyw wybodaeth feddygol yn hysbys i’r Card Network nac i Creu Cymru.

  

Sut bydd y cerdyn yn gweithio ar gyfer archebion gr?p?

Gwyddwn bod llawer o sefydliadau a busnesau'n ystyried mynediad i weithgareddau celfyddydol a diwylliannol i fod o fudd mawr i'w cleientiaid a phreswylwyr ac yn aml yn gweithio'n galed i drefnu ymweliadau â theatrau a chanolfannau celf. Mae gan lawer o'n lleoliadau sy'n cymryd rhan berthynas yn barod gyda phartneriaid lleol, ac wedi datblygu dealltwriaeth dda o'r unigolion amrywiol y mae sefydliadau yn gweithio gyda nhw.

Ni chaiff grwpiau eu cynnwys yn Hynt. Rydym eisiau parhau i gefnogi'r perthnasoedd hynny sy'n bodoli eisoes, a helpu i hwyluso rhai newydd. Gall gofyn am ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob ymweliad fod yn faich gweinyddol a gallai fod yn rhwystr i hwyluso ymweliadau. Felly, rydym yn teimlo y dylai cymhareb gofalwr/cynorthwyydd personol ar gyfer archebion gr?p gael ei adael i ddisgresiwn y theatrau a chanolfannau celf unigol.

Rydym yn argymell bod theatrau a chanolfannau celf sy'n aelodau o Hynt yn gofyn i bob gr?p gyflwyno asesiad risg a gwblhawyd gan y trefnydd yn manylu anghenion gofal y rhai sy'n dod i'r digwyddiad. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall anghenion y gr?p a dyrannu tocynnau am ddim i gynorthwywyr personol / gofalwyr lle bo'n briodol.

Bydd Hynt yn rhoi cymorth a chyngor i theatrau a chanolfannau celf lle bo angen ac yn awgrymu y bydd angen asesiad risg newydd ar gyfer pob ymweliad newydd.

Os bydd angen cymorth ychwanegol ar theatr neu ganolfan gelf i wneud penderfyniad, byddant hefyd yn gallu galw ar arbenigedd y cyflafareddwyr rhanbarthol. Fodd bynnag, y rheolwyr lleoliad fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol bob amser.

Sut fyddwn ni’n cael gafael ar wybodaeth i gwsmeriaid?

Rydym yn defnyddio cronfa ddata XML am ei fod yn fformat cyffredinol fel y gellir ei integreiddio i system eich swyddfa docynnau. Bydd y Card Network yn cysylltu â chi i weithio gyda chi i osod y system. Byddem hefyd yn disgwyl i leoliadau gael sgwrs â chyflenwr meddalwedd eu swyddfa docynnau i helpu i gefnogi'r gosodiad. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu cymorth technegol.

Bydd digon o wybodaeth am gwsmeriaid i sicrhau bod pob cofnod cwsmer yn unigryw i osgoi dyblygu cofnodion. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru'n rheolaidd. Rydym yn awgrymu lawrlwytho bob wythnos. Byddwch yn gallu penderfynu os ydych am lwytho'r holl gofnodion yn y gronfa ddata, neu dim ond y rhai sy'n lleol i'ch lleoliad. Dyma fydd yr wybodaeth ar y gronfa ddata: enw, manylion cyswllt a gwybodaeth dewisiadau cwsmeriaid perthnasol e.e. angen bathodyn parcio glas arnynt.

Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i'r gronfa ddata yn fyw dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio mewngofnod unigryw eich lleoliad.