cwmsmer hynt - cam wrth gam

Mae'r broses ymgeisio Hynt wedi'i chynllunio i fod mor syml â phosib:

1

Mae’r cwsmer yn llenwi ffurflen gais. Caiff y cais ei anfon at y Card Network drwy'r post neu e-bost yn cynnwys copi o'u tystiolaeth ategol a llun.

2

Mae’r Card Network yn prosesu'r cais gan roi cyfeirnod unigryw i'r cwsmer.

3

Os bydd y cais yn gyflawn ac yn bodloni'r meini prawf, bydd y Card Network yn ychwanegu gwybodaeth y cwsmer i'r gronfa ddata, yn creu cerdyn ac yn anfon y cerdyn a llythyr croeso yn ôl i'r ymgeisydd.

4

Os nad yw'r cais yn bodloni'r meini prawf, neu os bydd angen gwybodaeth bellach, bydd y Card Network yn rhoi gwybod i weinyddwr prosiectau Creu Cymru a fydd wedyn yn gweithio gyda'r cwsmer a'r broses Gyflafareddu i ddatrys y sefyllfa.

lleoliadau hynt - cam wrth gam

Mae’r cwsmer yn dymuno archebu tocynnau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb ac mae ganddo/i gerdyn Hynt:

1

Bydd y cwsmer yn gofyn am docyn fel arfer, gan adael i staff y swyddfa docynnau wybod bod ganddo/i gerdyn Hynt.

2

Bydd y staff yn gofyn am fanylion y cwsmer, gan gynnwys cyfeirnod unigryw Hynt er mwyn gwirio gyda'r gronfa ddata.

3

Unwaith y bydd staff wedi gweld proffil y cwsmer byddant yn gweld unrhyw wybodaeth ychwanegol berthnasol. Gallai hyn gynnwys bod y cwsmer yn defnyddio cadair olwyn, bod angen lle parcio anabl ar y cwsmer, neu bod gan y cwsmer hawl i fwy nag un tocyn am ddim gan fod angen gofal ychwanegol arno/i.

4

Gan ddefnyddio'r wybodaeth ar gofnod y cwsmer, gall y staff gwblhau'r archeb a rhoi gwybod i'r cwsmer am unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol. Er enghraifft, ble mae'r parcio anabl agosaf, neu os oes angen mynediad i'r theatr drwy fynedfa arall arnynt.

5

Ar ôl cwblhau'r archeb, gall staff roi gwybod i'r cwsmer y bydd y tocynnau ar gael i'w casglu o'r swyddfa docynnau ac y bydd rhaid iddo/i ddod â'r cerdyn gydag ef/hi i'w casglu.

Mae'r cwsmer yn dymuno archebu tocynnau am berfformiad yn y lleoliad, ond nid oes ganddo/i gerdyn Hynt:

1

Bydd y cwsmer yn gofyn am docynnau ac yn dweud bod ganddo/i hawl i docyn i ofalwr neu gynorthwyydd.

2

Bydd staff y swyddfa docynnau yn gofyn i'r cwsmer os yw’n aelod o Hynt

3

Nid yw'r cwsmer yn aelod o Hynt. Bydd y staff yn egluro cynllun Hynt ac os yw'n bosib, dylai'r cwsmer ganiatáu digon o amser i'w g/chais gael ei brosesu fel bod ganddo/i gerdyn cyn archebu tocynnau.

4

Os nad oes digon o amser i gais gael ei brosesu (7 niwrnod) yna rhaid i'r lleoliad benderfynu a yw’n hapus i ryddhau tocynnau i'r cwsmer.

5

Cynghorwn leoliadau a staff swyddfa docynnau y dylai hwn fod yn gynnig unwaith yn unig. Dylai cwsmeriaid gofrestru eu manylion cyswllt gyda'r swyddfa docynnau er mwyn creu cofnod cwsmer, gan ddweud wrthynt y bydd disgwyl iddynt i ymuno â Hynt er mwyn cael tocyn am ddim i unrhyw berfformiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu, os yw'r unigolyn am fanteisio ar docyn am ddim y tro nesaf y maent yn archebu, y byddwch yn gwybod ei fod yn ymwybodol o Hynt ac y dylai fod wedi cofrestru.

Nodiadau

Gall staff y swyddfa docynnau lawrlwytho cronfa ddata Hynt yn rheolaidd i'w osod ar system eu swyddfa eu hunain. Os gwneir hyn, dylai'r staff allu dod o hyd i broffil y cwsmer ar system eu Swyddfa Docynnau eu hunain yn hytrach nag ar gronfa ddata ganolog Hynt.

Rhaid i gwsmeriaid gasglu eu tocynnau o'r swyddfa docynnau gyda'u cardiau wrth law. Mae hyn am resymau diogelwch – dim ond i ddeiliaid cardiau y gall tocynnau gael eu rhoi. Mae cerdyn Hynt yn gerdyn adnabod â llun. Ni ellir trosglwyddo'r tocynnau, ac ni ddylid eu cyflwyno os nad yw deiliad y cerdyn yn bresennol.